Mewn menter newydd gyffrous mae Coleg y Cymoedd yn cyflwyno prosiect peilot yn 2016-17 ar ei bedwar campws yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach. Bydd y Cynghorau Campws yn ymddwyn fel bwrdd seinio ar gyfer materion, pryderon, cyfleoedd a datblygiad sy’n berthnasol i waith Coleg y Cymoedd.
Bydd aelodau’r Cynghorau Campws yn cynghori rheolwyr y campws a’r coleg ac yn gwneud argymhellion i’r Bwrdd Corfforaethol yn ymwneud â datblygu a chyflwyno darpariaeth addysgol sy’n addas ar gyfer anghenion y dysgwyr, diwydiant a’r gymuned a wasanaethir gan y coleg, ynghyd â blaenoriaethau strategol y Coleg.Â
Er mwyn cynnal cynrychiolaeth leol a meithrin perthynas gyda busnesau, ysgolion, mudiadau gwirfoddol a’r cyhoedd ehangach, caiff pob campws ei gynrychioli gan Gyngor Campws er mwyn crynodi buddiannau busnes a buddiannau lleol ehangach drwy bwyllgor o gynrychiolwyr o feysydd dethol. Bydd hyn yn galluogi trafod materion sy’n benodol i weithrediad pob un campws yn y coleg, gan olygu cyfranogiad ac integreiddio gyda’r gymuned ehangach.
Bydd y Cyngor Campws yn: Â
Bydd y Cynghorau Campws yn cwrdd unwaith bob tymor, a bydd ganddynt 15 aelod. Bydd 9 yn aelodau o’r tu allan i’r Coleg. Mae’r Coleg yn dymuno recriwtio aelodau ar gyfer y Cynghorau Campws sydd â diddordeb brwd yn rôl y Coleg yn y gymuned. Yn arbennig, mae’n chwilio am bobl sydd â phrofiad yn y byd busnes a diwydiant, gwasanaethau cyhoeddus, y sector gwirfoddol / trydydd sector, ysgolion ac addysg, adfywio a datblygiad economaidd ac arbenigedd lleol yn ymwneud â’r cymunedau daearyddol a wasanaethir gan gampysau unigol y coleg.
Dywedodd yr Is-Bennaeth David Finch “Mae’r Coleg yn awyddus i gydweithio’n agosach â’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yn yr ardaloedd a wasanaethir gan ei bedwar campws a bod yn atebol iddynt. Mae ymgysylltu effeithiol â’r gymuned a busnesau yn hollbwysig ar gyfer twf a datblygiad y Coleg yn y dyfodol. Bydd Cynghorau Campws yn ffordd arloesol o sicrhau bod gan bobl leol rôl allweddol yn nefnydd a datblygiad eu campws lleol.â€
Gall unrhyw un â diddordeb mewn ymgeisio neu gael rhagor o wybodaeth gysylltu â Michelle Lewis yng Ngholeg y Cymoedd ar 01443 653699 neu Michelle.Lewis@cymoedd.ac.uk