Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai ni yw’r coleg AB cyntaf yng Nghymru i ennill Achrediad Gyrfa Ddeuol y Cynllun Ysgolheigion Athletaidd Dawnus (TASS).
Mae’r cynllun hwn yn adlewyrchu’r ymrwymiad i sicrhau bod athletwyr dan hyfforddiant yn cyflawni dyheadau academaidd a chwaraeon heb orfod cyfaddawdu ar y naill na’r llall.
Mae’r cynllun ar gael i ddysgwyr presennol a newydd sy’n perfformio mewn unrhyw gamp, ar lefel sirol, rhanbarthol, academi, cenedlaethol neu ryngwladol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alun Davies, Cydlynydd Gyrfa Ddeuol ar Alun.davies2@cymoedd.ac.uk