Cynllun prentisiaeth yn sicrhau llwyddiant mewn gwobrau cenedlaethol

Enwyd partneriaeth rhwng Coleg y Cymoedd ac un o wneuthurwyr electronig blaenaf y DU yn ‘Bartneriaeth Datblygu’r Flwyddyn’ yng ngwobrau ‘Insider Business and Education Partnerships’ 2016.

Fel rhan o’r gystadleuaeth, roedd yn rhaid i’r Coleg a’r cwmni ‘Axiom Manufacturing Services’ o Drecelyn, gystadlu yn erbyn rhai o brif gyflogwyr a cholegau Addysg Bellach Cymru gan gynnwys , Deloitte a Choleg Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Choleg Gwent, ac Academi Sgiliau Cymru a Grŵp Colegau CNPT.

Cychwynnwyd y bartneriaeth yn 2011 er mwyn creu rhaglen brentisiaeth wedi’i theilwra. Ei nod oedd mynd i’r afael â’r bwlch o ran sgiliau ar gyfer y diwydiant ar draws y DU ar lefel leol. Roedd gwneuthurwyr electroneg contract Axiom, am greu gyrfaoedd newydd yn y diwydiant cynhyrchu technoleg yng Nghymru, ac roedd angen partner addysg bellach â’r gallu i ysbrydoli a chefnogi cenedlaethau newydd o dalent Gymreig i weld cynhyrchu fel llwybr gyrfa dymunol.

A’r canlyniad yw rhaglen tair i bedair blynedd sy’n darparu ymagwedd at brentisiaethau â ffocws pendant sy’n mynd i’r afael â’r sgiliau sydd eisoes yn bodoli ac yn nodi mannau ar gyfer uwchsgilio pellach. Hefyd, mae’r bartneriaeth yn galluogi Coleg y Cymoedd i sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir ganddo yn sicrhau bod yr union set o sgiliau sydd ei hangen ar gyflogwyr gan y rheiny sy’n dechrau ar yrfa yn y sector electroneg a pheirianneg.  

Yn ogystal â’u hastudiaethau coleg, mae prentisiaid Axiom hefyd yn ennill profiad amhrisiadwy o’r byd go iawn gan weithio gydag un o wneuthurwyr electroneg contract blaenaf y DU. Yn ystod eu prentisiaethau tair i bedair blynedd, mae prentisiaid yn treulio’r 12 mis cyntaf yn Axiom yn cael blas ar bob adran yn y busnes.

Wrth siarad am y llwyddiant yn y gwobrau dywedodd Cyfarwyddwyr Rheoli Axiom, David Davies,: “Mae diwydiant cynhyrchu enwog sydd gan Gymru yn cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous ac amrywiol i bobl ifanc. Mae datblygu talent newydd yn rhywbeth rydym ni fel cwmni yn angerddol iawn yn ei gylch. Mae ein cydweithio â Choleg y Cymoedd yn ymwneud llawer â chreu gweithlu hir dymor, medrus ar gyfer y cwmni ac annog dysgwyr i gydnabod y potensial y mae ein diwydiant yn ei gynnig o ran gyrfa.

“Mae recriwtio pobl yn gynnar yn eu gyrfa yn sicrhau bod eu hyfforddiant yn addas ar gyfer ein ffordd o weithio ac ethos y cwmni; mae’n sicrhau gweithwyr o ansawdd uchel ar draws ein busnes. Mae’r coleg yn deall ein hangen i recriwtio dysgwyr gyda’r sgiliau a’r angerdd i ddatblygu ac rydym wedi ymrwymo i’w helpu i ymgysylltu â phob dysgwyr i sylweddoli’r potensial sydd gan ddiwydiannau Cymru.”

Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi recriwtio, hyfforddi, cadw a chefnogi datblygiad parhaus un prentis ar ddeg. Fodd bynnag, ar gyfartaledd, mae’r cynllun wedi denu 30 ymgeisydd i bob lle bob blwyddyn. Mae Axiom wedi ymrwymo i gymryd o leiaf dau berson ifanc bob blwyddyn academaidd.

Dywedodd Matthew Tucker, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes Coleg y Cymoedd: “Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o’r canlyniadau anhygoel y mae’r bartneriaeth wedi’u cyflawni ac yn eu cyflawni. Rydym yn falch iawn o’r berthynas hirdymor yr ydym wedi’i hadeiladu gyda chyflogwyr fel  Axiom Manufacturing Services.

“Mae angen staff cymwys sydd wedi’u hyfforddi’n dda ar fusnesau fel Axiom sydd yn gallu cwrdd ag anghenion penodol y sector sy’n newid o hyd. Ein rôl yw gweithio mewn partneriaeth gyda busnesau a’u gweithiwyr a’u darpar weithwyr i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau y mae’r cyflogwyr yn gofyn amdanynt.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau