Yn ddiweddar, cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Rhai Mwyaf Abl a Thalentog Rhondda Cynon Taf yng Ngholeg y Cymoedd a’r siaradwr gwadd oedd Paul Murphy, AS Torfaen Cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llysgennad cyfredol Oxbridge ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Cwrddodd Mr Murphy â rhai o fyfyrwyr Lefel A Mwyaf Abl a Thalentog sy’n astudio yn y Ganolfan Chweched Dosbarth pwrpasol ar gampws gwych Nantgarw, y myfyrwyr hynny sy’n gobeithio gwneud cais am le yng Nhaergrawnt neu Rydychen y flwyddyn nesaf. Un o’r myfyrwyr lwcus oedd Shannon Britton, sy’n astudio Lefel A a’r un cyntaf y Coleg yn ddiweddar i gael cynnig diamod i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen.
Penodwyd AS Torfaen yn Llysgennad gan Leighton Andrews, y cyn Weinidog Addysg ym mis Mawrth 2013. Mae wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn ymweld ag ysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru yn chwilio am y rhesymau pam mai nifer cymharol fechan o fyfyrwyr Cymru sy’n gwneud cais ac ennill lle yn y ddwy brifysgol a’r hyn y gellid ei wneud i wella’r sefyllfa.
Cwrddodd cynrychiolwyr o nifer o ysgolion RhCT â Mr Murphy a Dr Jonathan Padley, Swyddog Cyswllt Ysgolion Coleg Churchill, Caergrawnt, i ystyried y cynnydd a wnaed a thrafod darpar strategaeth.
Dywedodd Ian Rees, Pennaeth Lefel A Canolfan Chweched Dosbarth Coleg y Cymoedd: Mae rhaglen Y Rhai Mwyaf Abl a Thalentog RhCT wedi bod yn fuddiol iawn i’r myfyrwyr mwyaf galluog yn ein carfan gyntaf erioed o fyfyrwyr Lefel A gyda thri myfyriwr yn cael cyfweliad ym Mhrifysgol Rhydychen/Caergrawnt ac un yn cael cynnig lle amodol. Mae gennym hefyd grŵp addawol o fyfyrwyr UG a fydd hyd yn oed yn fwy llwyddiannus, gobeithio. Bydd ymweliad Paul Murphy, gobeithio, yn rhoi hwb newydd i’r ymgyrch o godi dyheadau dysgwyr Coleg y Cymoedd, yn helpu myfyrwyr i anelu’n uchel a chael yr hunan gred i ymgeisio!”
Dywedodd Paul Murphy: “Roedd yn wych cael ymweld â Choleg y Cymoedd a chlywed am waith Pwyllgor Rhai Mwyaf Abl a Thalentog Rhondda Cynon Taf. Maen nhw’n gwneud gwaith rhagorol i gynorthwyo’r myfyrwyr mwyaf abl ac wedi cyflawni llawer iawn mewn ychydig iawn o flynyddoedd. Gobeithio y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu datblygu mewn rhannau eraill o Gymru er mwyn sicrhau bod gan ein myfyrwyr yr hyder a’r gefnogaeth i anelu am y brig.â€
“