Daeth myfyrwraig leol, Claire Miles, sy’n astudio ar gwrs Gradd Sylfaen ewn Adeiladu Cynaliadwy a Syrfeo yng Ngholeg y Cymoedd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i’r brig yng nghystadleuaeth Rhanbarth De Cymru a noddwyd gan Cambria Consulting, Gleeds a RICS, sy’n cydnabod y talent sydd ar gael i’r diwydiant ar y cam cynharaf posibl yn ystod cyfnod myfyrwyr yn y coleg.
Nod y cynllun dyfarniadau ydy dangos i’r diwydiant bod angen cysylltu â Phrifysgolion yn gynnar yn y broses addysgol a hefyd gwella gwybodaeth myfyrwyr am yr opsiynau gyrfaol sydd ar gael iddyn nhw. Mae nifer yn sicrhau lleoliadau gwaith o ganlyniad uniongyrchol i gystadlu yn y Dyfarniadau sydd wedyn yn aml yn troi’n swyddi parhaol ar ôl i’r myfyrwyr raddio.
Mae llawer wedi cael ei ysgrifennu yn y wasg ar y bwlch sgiliau difrifol sy’n niweidio’r diwydiant eiddo ac adeiladu yn y DU. Bu WiP (Cymdeithas Merched mewn Eiddo) yn gweithio i annog merched a menywod ifanc i fynd i mewn i’r diwydiant drwy raglen eang Addysgol sy’n cynnwys y cynllun Dyfarniadau Cenedlaethol i Fyfyfwyr sydd wedi bodoli ers deng mlynedd.
Dywedodd Mandy St John Davey, Cadeirydd cangen De Cymru, “Mae Claire wedi gwneud yn dda iawn i ennill yn y rhanbarth ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd yn cynrychioli’r rhanbarth hon yn y rownd derfynol genedlaethol ym mis Medi. Mae hon yn gystadleuaeth galed a merched proffesiynol talentog a brwdfrydig iawn yn cymryd rhan sy’n argoeli’n dda am recriwitio i weithlu’r diwydiant yn y dyfodol.
“Ond lein beipiau ydy hon ac ni all y diwydiant fforddio unrhyw rhwystr ynddi. Mae galw enbyd yn y dywdiant am ragor o bobl ifanc. Er gwaetha’r prinder sgiliau, dydy pobl ddim yn aml, yn meddwl am yrfa yn y diwydiant eiddo ac adeiladu, yn enwedig merched ifanc sy’n chwilio am yrfa ar ôl TGAU. Rydyn ni’n galw ar ysgolion – a rhieni – i gofio’r cyfleoedd gwych gall y diwydiant hwn eu cynnig wrth roi cyhngor gyrfaol.â€
Noddir Dyfarniadau Myfyrwyr yn genedlaethol gan dri enw maer yn y diwydiant, Â Cwmni adeiladu Bouygues UK, ymgynghorwyr eiddo Cushman & Wakefield ac adeiladwyr tai, Linden Homes.
Dywedodd Carole Ditty, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Bouygues UK, “Rydyn ni’n hapus i gefnogi Dyfarniadau Merched mewn Eiddo unwaith eto. Mae’r dyfarniadau yn llwyfan gadarn i fyfyrwyr gynnig eu hun i’r busnesau, cyflogwyr a’r diwydiannau y mae ganddyn nhw ddiddodeb ynddyn nhw. Fel cyflogwr fy hun, mae hefyd yn fodd ardderchog i ni adnabod talent newydd a gweld gwir frwdfrydedd pobl dros y diwydiant. Yn fwy pwysig, mae’n helpu myfyrwyr i gael syniad da am y math o gwmnïau y gallen nhw fod yn gweithio iddyn nhw a sut gallai eu gyrfa ddatblygu ac mae hyn yn ddefnyddio i bobl sydd heb benderfynu ar lwybr gyrfa.
“Mae’n wych gweld cymaint o ferched yn cymryd rhan yn y dyfarniadau eleni ac ar ran of Bouygues UK,  hoffwn longyfarch Claire a phob un sydd wedi cyrraaedd y rownd derfynol yma heddiw.â€
Ymhlith y panel beirinaid eleni roedd cynrychiolwyr o wahanol ddisgyblaethau’r diwydiant, gyda Gary Mitchell, Cyfarwyddwr Cambria Consulting, Leigh Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr rhanbarthol Bouygues, Jonathon Smart, Cyfarwyddwr cysylltiol Residential Agency & Valuation, Cushman & Wakefield a Mandy St John Davey, Datblygwr Eiddo a Chadeirydd Merched mewn Eiddo De Cymru.
Mae Claire yn erbyn siec o £300 a thlws. Dywedodd, “ Ron i wrth fy modd pan ges i fy enwebu gan fy Mhrifysgol ar gyfer y Dyfarniadau hyn a bu’r broses yn brofiad syfrdanol. Dw i wedi dysgu cymaint,wedi cwrdd â phobl wych yn cynnwys y beirniaid – hoffwn ddiolch iddyn nhw am roi eu ffydd yndda i.â€Â
Yn ogystal â Claire roedd pum arall yn y rownd ranbarthol derfynol oedd wedi cael eu henwebu gan eu Prifysgolion. Cawson nhw eu gwahodd i ymddangos o flaen panel eirniad yn cynnwys arbenigwyr y diwydiant holwyd nhw ar ddarn i waith cwrs ac ar faterion cyfredol y diwydiant.
Y rhai yn y rownd derfynol:-
Nichola Meredith yn astudio HNC Syrfeo ym Mhrifysgol De Cymru, Kate Davis, yn astudio BSc Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd Ci
Chelsigh Hacker, yn astudio BSc Syfrfeo Meintiau a Rheoli Masnachol Quantity, Prifysgol De Cymru,
Gwen Thomas, yn astudio BSc daearyddiaeth (Dynol) a Chynllunio, Prifysgol Cerrdydd
Hayley McCarthy, yn astudio BSc Rheoli Prosiect- Syrfeo, Prifysgol De CymruP
Cynhelir y ffeinal cenedlaethol yn Claridge’s, Llundain Ddydd Mercher 21 Medi pan fydd myfyrwyr ledled y Du yn cystadlu am dlws Dyfarniad Myfyrwyr CenedlaetholÂ
“