Dathlu Diwrnod Sumae Shwmae

Photo’s courtesy of Photographer Kevin Thomas, kxtdesign@gmail.com , further images at Kevin Thomas Flickr Galley

Bu sgiliau creadigol newydd grŵp o fyfyrwyr sy’n astudio effeithiau arbennig i’r cyfryngau ar waith eithaf brawychus ym Mharc Gwledig Cwm Dâr wrth iddyn nhw greu ‘byddin o feirwon byw’.

Llwyfanwyd yr olygfa erchyll gan fyfyrwyr Coleg y Cymoedd fel rhan o Ras Dyffryn Angau (Valley of the Dead) 2013, sef achlysur blynyddol unigryw lle gwelir 270 o redwyr o bob cwr o dde Cymru yn cystadlu mewn ras rwystrau tra bod 60 ‘sombi’ yn eu herlid.

Roedd yr ellyllon sombïaidd yn brawf o waith llaw 25 o ieuenctid sy’n astudio cyrsiau gradd sylfaen mewn Technoleg Celfyddydau Perfformio a graddau sylfaen ac Anrhydedd BA mewn Creu Gwisgoedd i’r Sgrin a’r Llwyfan yng Ngholeg y Cymoedd.

Mae’r myfyrwyr yn hyfforddi i fod yn artistiaid effeithiau arbennig, rheolwyr gwisgoedd yn y cyfryngau a dylunwyr props a gwisgoedd i’r diwydiant ffilm, teledu a theatr. Roedd y diwrnod a dreuliwyd yn defnyddio’r gwaed ffug a chreu clwyfau anghynnes yn benllanw wythnosau o ymarfer sut i ddarparu amrywiaeth o brops a gwisgoedd ar gyfer y cast.

Yn ôl Kelly Jones, o Gaerdydd, fu’n cymryd rhan yn y gweithgaredd: “Nid bob dydd y cewch chi gyfle i greu llond gwlad o sombis a chael hynny i gyfrif fel rhan o’ch gwaith gradd, felly mae’n achlysur bythgofiadwy i mi. Cael cyfle fel hwn ydy un o’r rhesymau imi fod ag awydd gweithio yn y diwydiant hwn. Wyddoch chi byth beth fyddan nhw’n ofyn i chi ei greu nesa. Mae’n wych cael rhoi’r sgiliau rydyn ni wedi eu dysgu yn y coleg ar waith.”

Gradd sylfaen Coleg y Cymoedd mewn Technoleg y Celfyddydau Perfformio ydy’r unig un o’i fath yn Ne Cymru. Cafodd ei lansio ym Medi 2012 ac y mae’r cwrs eisoes wedi magu enw da yn y byd teledu, ffilm a pherfformio yng Nghymru. Yn y flwyddyn gyntaf, llwyddodd myfyrwyr sylfaen i gael lleoliadau gwaith gyda’r BBC, S4C a nifer o gwmnïau cynhyrchu annibynnol.

Priodolir llwyddiant yr Adran Diwydiannau Creadigol i’r profiad ymarferol o fyd diwydiant a’r arweiniad arbenigol a gaiff y myfyrwyr gan ddarlithwyr y coleg, sydd eu hunain yn parhau i weithio o fewn y diwydiant ochr yn ochr â’u gwaith yn addysgu yn y coleg.

Yn ôl arweinydd y cwrs, Jane Beard, “Mae’r prosiect hwn yn gychwyn ffantastig i’r flwyddyn academaidd. Mae caffael profiad fel rhan o dîm cynhyrchiad proffesiynol yn rhan amhrisiadwy o’n cyrsiau ar gyfer y diwydiannau creadigol. Bydd yn gaffaeliad mawr i’r myfyrwyr hyn wrth iddyn nhw edrych ymlaen i gael dechrau gweithio ym maes y cyfryngau proffesiynol a’r diwydiannau creadigol.

“Mae nifer dda o gyfleoedd ar gael i’r rhai sydd â’u bryd ar fynd i weithio i’r diwydiant cyffrous hwn. Mae nifer o’n myfyrwyr wedi treulio peth amser yn gweithio yn y BBC, S4C ac Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Dangosodd gwaith y penwythnos hwn fod rhai myfyrwyr wedi cael budd o weithio ar raglenni ‘Casualty’, yn sicr mae ganddyn nhw’r dalent i greu clwyfau hynod o realistig.”

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rhan allweddol o addysg ein myfyrwyr ydy cael profiad ymarferol ac y mae’r achlysur ‘sombi’ hwn yn enghraifft dda iawn o’r ystod o brosiectau y maen nhw’n cael bod yn rhan ohonyn nhw. Fe fwynhaodd y myfyrwyr arddangos yr hyn roedden nhw wedi ei ddysgu hyd yma yn ystod y tymor, a bydd profiad gwaith o’r math hwn yn apelio at gyflogwyr o’r cyfryngau pan ddaw rhain i gwblhau eu cwrs.”

Dywedodd Lauren Griffiths, Blackwood, a gymerodd ran yng ngweithgareddau’r dydd: “Roedd gweithio ar y ras Sombi yn uniongyrchol â Chyngor RhCT yn hwyl ac yn wahanol. Roedd yn wych cael cydweithio ag adrannau eraill o’r coleg, yn ogystal â chyfarfod pobl newydd. Fe ddysgais i lawer o dechnegau a sut mae pethau’n digwydd yn y diwydiant. Hwn oedd ein modiwl cyntaf ac fe wnes i ddysgu llawer o’r profiad, roedd yn fodd ardderchog o gael hyfforddiant. Bydd y profiad yn help i mi gyda gweddill y cwrs a bydd y sgiliau wnes i eu caffael o fudd yn y dyfodol pan fyddaf wedi cwpla’r cwrs ac yn chwilio am swydd neu’n mynd ymlaen i addysg bellach. Rwy’n awyddus i astudio cwrs meistri.”

Meddai Amy Jones, 21, o Pencoed sydd hefyd yn cyfrannu at greu’r zombie yn edrych: “Dysgodd y profiad hwn i mi sut mae gweithio lle rydych chi dan bwysau. Cawsom ein briffio am y ras sombi ar ail wythnos ein cwrs. Fe wnes i fagu llawer o sgiliau nad oeddwn i’n eu meddu ynghynt a bydd rhain gen i ac yn fuddiol wrth wynebu heriau eraill ar y cwrs. Roedd pawb gymrodd ran o fy nghwrs i wedi gwir fwynhau’r cyfan ac wedi cael budd ohono. Rydw i wedi dysgu shwd gymaint mewn amser byr ac wedi sylweddoli cymaint rydw i’n gallu’i wneud yn barod. Rwy’n credu bydd y profiad hwn o help mawr i mi mewn unrhyw swydd, a bydd yn bwnc diddordol a gwahanol i’w drafod mewn cyfweliadau.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau