Gosododd grŵp o ddysgwyr Coleg y Cymoedd sy’n astudio ar gampws Nantgarw her i’w cymheiriaid brofi eu sgiliau datrys problemau, mewn ffordd wahanol iawn.
Fel rhan o’r uned Rheoli Digwyddiad Busnes ar eu cwrs, cafodd y dysgwyr Lefel 3 sy’n astudio ar y cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Busnes ar y campws y dasg o drefnu digwyddiad.
Roeddent yn canolbwyntio ar y dysgwyr Lefel 2 gan herio eu sgiliau cyfathrebu a’u gallu i weithio gyda dysgwyr o’r tu allan i’w cwrs. Y lleoliad a ddewiswyd oedd yr Escape Rooms yng Nghaerdydd gan ei fod weddol agos ac o fewn eu cyllideb benodol.
Aeth y grŵp ati i gyflawni’r tasgau gofynnol gan gynnwys gosod dyddiad, anfon gwahoddiadau at y dysgwyr, trefnu cludiant a mynediad at y lleoliad a sicrhau y cedwir at holl bolisïau’r coleg; gan gynnwys iechyd a diogelwch a chydsyniad i gael sylw yn y cyfryngau.
Cyrhaeddodd pymtheg o ddysgwyr, ynghyd â dau diwtor yr Escape Rooms er mwyn mynd ati i gracio’r codau; roeddent yn ddiolchgar am y cymorth gan y trefnwyr pan aeth pethau’n anodd.
Treuliodd y dysgwyr awr yn gweithio yn eu timau i ddatrys y cliwiau. Yn anffodus er gwaethaf eu hymdrechion gorau, ni ddihangodd pob un o’r dysgwyr – fodd bynnag, cawsant brofiad pleserus ac maent yn awyddus i ddychwelyd am her arall.
Gan fynychu’r daith gyda’r dysgwyr, dywedodd Tiwtor y Cwrs Kim Purnell, “Gweithiodd y grŵp yn galed i drefnu’r digwyddiad fel rhan o’r uned – Rheoli Digwyddiad Busnes. Roedd y gweithgaredd wedi’i gynllunio’n dda a datblygodd y dysgwyr a fynychodd sgiliau gwerthfawr drwy gymryd rhan yn y gweithgaredd hwyliog hwn â€.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Owen Hunt, dysgwr 16 oed o Bontyclun a oedd yn rhan o’r tîm a gymerodd ran yn yr her â€Fe wnes i fwynhau’r daith yn fawr a byddwn i wrth fy modd yn mynd eto. Trefnodd y dysgwyr Lefel 3 yn dda iawn a wnaeth y profiad hyd yn oed yn well. Er na wnaethon ni ddianc roedd yn dal i fod yn hwyl ac yn gyfle i ddatblygu sgiliau â€.
Ychwanegodd Tomos Williams (18) o Gaerdydd a gymerodd ran yn y gweithgaredd hefyd, “Fe wnes i fwynhau ein taith i’r Escape Rooms yn fawr iawn. Roedd yn dipyn o hwyl ac yn amlwg roedd yn brofiad da addasu ein sgiliau datrys problemau. Hefyd, roedd yn ymarferiad adeiladu tîm gwych â€.