Mae tiwtor Electroneg a Pheirianneg yng Ngholeg y Cymoedd wedi ennill gwobr Myfyriwr Ymchwil y Flwyddyn Colegau Cymru mewn seremoni yn ddiweddar yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.
Enwebwyd Nicola Regan o Gaerdyddd ar gyfer y wobr am y marciau uchaf yn ei charfan am ei thraethawd ymchwil yn y cwrs MA Arweinyddiaeth a Rheolaeth, cwrs nodedig a ddyfernir gan Brifysgol De Cymru ac sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan GolegauCymru.
Cwblhaodd Nicola ei thraethawd ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadawy a Dinasyddiaeth Byd-Eang a sut y gellir ymgorffori hyn yng nghwricwlwm a hinsawdd y coleg. Roedd hyn yn cynnwys llawer o ymchwil i bwnc sensitif a diddorol cynaliadwyedd mewn addysg a’r gweithle, gan gyfweld cydweithwyr a phobl mewn dau goleg arall a’r sector preifat.
Cyfunodd Nicola’r rhaglen MA a chychwyn teulu. Dylai’r rhaglen fod wedi cymryd tair blynedd gan ddysgu’n gyfunol, ond cymerodd Nicola gyfnod mamolaeth o flwyddyn cyn parhau â’u hastudiaethau drwy diwtorialau wythnosol a chyswllt ar-lein gyda’i thiwtor. Ymunodd merch fach bedair oed Nicola â’i mam yn y seremoni wobrwyo.
“Roedd cwrs yn golygu llawer o waith ond fe wnes i fwynhau bob munud ohono. Dw i wedi dysgu cymaint ac mae fy addysgu wedi elwa. Byddwn yn argymell pobl i wneud hyn. Dw i eisiau dal i gario ymlaen i ddysgu ac mae’r cwrs MA wedi f’ysgogi i ddal ati!â€
Hefyd, roedd gofyn i Nicola, sydd wedi gweithio i’r Coleg am dair blynedd ar ddeg, wneud cyflwyniad yn crynhoi ei thraethawd mewn cynhadledd ym Mhrifysgol De Cymru, yn dangos arferion gorau i ddarpar fyfyrwyr ar y cwrs proffesiynol hwn.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Nicola yn enghraifft rhagorol cymaint yw cymhelliad ein staff i barhau â’u datblygiad proffesiynol ac felly’n cyflenwi addysgu o’r ansawdd gorau. Mae gallu Nicola i gwblhau ei hastudiaethau i safon mor uchel tra’n cyfuno hyn gydag ymrwymiadau gwaith a theulu yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae’n llawn haeddu’r wobr hon am ei holl waith caled.â€