Cafodd cyflwyniad arbennig wedi’i noddi gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ei gynnal yn y Senedd i ddathlu Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.
Yn 2015-16, cofrestrodd dros 1800 o ddysgwyr sy’n oedolion ar gyfer Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru, cymhwyster cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod gan bob prifysgol yng Nghymru fel cymhwyster sy’n cyfateb i dair gradd Safon Uwch. Mae’r Diploma wedi’i gynllunio’n benodol i roi cyfle i oedolion baratoi a symud ymlaen i addysg uwch.Â
Dywedodd Victor Morgan, Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru, “Mae Mynediad i Addysg Uwch yn bwysig iawn yng nghyswllt dysgu oedolion yng Nghymru
“Mae Mynediad i Addysg Uwch yn denu oedolion sy’n dysgu arbennig o gefndiroedd amrywiol. Yn aml, bydd dysgwyr wedi goresgyn rhwystrau personol, cymdeithasol ac economaidd mawr i gyflawni’r Diploma a gwireddu eu breuddwydion o fynd i’r brifysgol.â€
Mae Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch, sy’n llawn bri ac yn eu chweched blwyddyn bellach, yn dathlu cyflawniadau rhagorol dysgwyr Mynediad ledled Cymru. Dydy’r enillwyr a’r rheini fu bron â chyrraedd y brig eleni ddim yn eithriad.
Aeth Victor Morgan yn ei flaen i ddweud: “Hoffwn yn bersonol gynnig fy llongyfarchiadau gwresog i’r enillwyr a’r rheini fu bron â chyrraedd y brig yng Ngwobrau Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch eleni, ac i’r holl ddysgwyr sydd wedi gweithio mor galed i gael eu Diploma Mynediad i Addysg Uwch.â€
Cafodd Chris Major, a ddaeth yn ail yn y categori ‘Ymrwymiad Eithriadol i Astudio’, eu cyflwyno â’u gwobrau gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, a ddywedodd:
“Un o brif negeseuon y Rhaglen Lywodraethu yw bod pawb yn haeddu’r cyfle i wireddu eu potensial. Mae Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn rhoi ail gyfle i ddysgwyr ragori. Rydyn ni’n anrhydeddu tri dysgwr y prynhawn yma, ac mae eu cyflawniadau nhw yn amlygu pwysigrwydd y Diplomâu hyn.â€
Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru yn llwyddo i fynd i’r afael â’r angen i wella’r gweithlu mewn meysydd galwedigaethol sy’n ganolog i economi Cymru. Yng Nghymru yn 2015-16, roedd 1,080 o ddysgwyr wedi cofrestru ar gyfer Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol (58% o’r holl bobl a gofrestrodd).
Mae 16 Diploma ar gael mewn amrywiaeth o feysydd pwnc – mae llawer ohonynt yn gysylltiedig â meysydd galwedigaethol lle mae galw penodol am sgiliau arbenigol.
Mae’r Diploma diweddaraf i gael ei ddatblygu yn galluogi dysgwyr sy’n oedolion i ddilyn gyrfaoedd yn y sector ariannol drwy’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch newydd (Gwasanaethau Ariannol), sydd wedi cael cefnogaeth gan gyflogwyr allweddol o Gymru, yn ogystal â darparwyr addysg uwch.
Yn 2014-15, aeth 83% o’r holl ddysgwyr oedd wrthi’n cwblhau Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru ymlaen i gyflawni cwrs addysg uwch yng Nghymru.
Dywedodd John Graystone, Cadeirydd Gweithredol Agored Cymru: “Mae dysgu oedolion yn hanfodol o ran creu amgylchedd busnes sefydlog a sicrhau twf economaidd parhaus yng Nghymru.
“Mae pawb sy’n rhan o addysg oedolion yn cydnabod yr effaith y gall dysgu ei chael ar fywyd unigolion, teuluoedd, cymunedau, busnesau ac economi Cymru.
Fel y corff dyfarnu o ddewis, rydyn ni’n falch iawn o gael y cyfle hwn i gydnabod a dathlu dysgu oedolion yng Nghymru.†Â
“