Dysgwr Coleg y Cymoedd yn cyrraedd yr uchelfannau mewn cwmni fforch godi lleol

Mynychodd Rhys Lloyd Thomas 19 o Hengoed y ‘Gŵyl y Dyfodol’ gyntaf a gynhaliwyd ar gampws Ystrad Mynach, ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Ymwelodd Rhys â’r digwyddiad i gasglu rhywfaint o wybodaeth am y Rhaglen Brentisiaeth, gyda diddordeb arbennig mewn Peirianneg Drydanol.

Yn dilyn y digwyddiad, cofrestrodd Rhys gyda Swyddfa Gyflogaeth y coleg a chwrdd ag aelod o’r tîm Dyfodol i drafod uchelgais o ran gyrfa, ei brofiad gwaith, ei gyflawniadau a’i ddiddordebau personol; yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â pheirianneg. Rhoes Rhys wybod i’r tîm am ei rôl wirfoddoli yn Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon, profiad yr oedd yn gobeithio y byddai’n cefnogi ei gais am brentisiaeth.

Drwy gydol y cyfnod clo canolbwyntiodd Rhys ar gwblhau ei gymhwyster Peirianneg Lefel 3 a mynychodd gyfarfodydd rhithwir un i un gyda’r tîm Dyfodol drwy MS Teams. Yn ystod y cyfarfodydd, cefnogodd y staff ef i baratoi ar gyfer cyfweliadau, gan sicrhau bod ei CV yn addas at y diben a bod llythyrau eglurhaol perthnasol yn cael eu drafftio.

Drwy’r Swyddfa Gyflogaeth cafodd Rhys ei baru â phrentisiaeth mewn busnes tryciau fforch godi teuluol lleol. Ar ôl mynychu cyfweliad a chwblhau treial â thâl am wythnos, cynigiwyd swydd Prentis Peirianneg Drydanol i Rhys.

Dywedodd David Eyre, cydlynydd Peirianneg yr isadran Dysgu Seiliedig ar Waith Bydd y brentisiaeth yn cynnig sylfaen ar gyfer datblygiad personol Rhys yn ei rôl newydd”.

Wrth sôn am brentisiaeth Rhys, ychwanegodd Michele Harris-Cocker, Cydlynydd Dyfodol@Cymoedd “Mae Rhys yn berson ifanc cwrtais, hyfryd sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg drydanol. Wrth gwblhau ei astudiaethau, roedd ganddo amser i fod yn wirfoddolwr allweddol yn Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon. Cyn gynted ag y cysylltodd Betterserve â’r coleg roeddwn i’n gwybod mai ef oedd yr un ar gyfer y rôl, roedd yn berffaith. Mae mor galonogol clywed ei fod yn ymgartrefu’n dda.

Dywedodd Vernon Leadbetter, Rheolwr Gyfarwyddwr, BetterServe UK Cyf: “Mae’r Tîm Dyfodol yn y coleg wedi bod yn gefnogol iawn, gan ein helpu i ddod o hyd i’r ymgeisydd iawn i gyd-fynd â’n hanghenion busnes. Mae Rhys wedi ymgartrefu’n dda iawn ac eisoes wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau. Mae’n wir raid imi ddiolch iddyn nhw am eu holl gefnogaeth “

O’r chwith i’r dde David Eyre (Cydlynydd Peirianneg DSW, Coleg y Cymoedd) Rhys Lloyd-Thomas (Peirianneg L3 Campws Ystrad Mynach), Vernon Leadbetter (Rheolwr Gyfarwyddwr, Betterserve UK Cyf.)

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau