Dysgwr i Arweinydd: Stori Lwyddiant Maria Hartill

Dewch i gwrdd â Maria Hartill, cyn ddysgwr Coleg y Cymoedd, aelod o staff presennol, entrepreneur llwyddiannus, a hyfforddwr harddwch y dyfodol.

Mae Maria wedi bod ar daith ryfeddol o ddysgu, gweithio, ac arwain yn y diwydiant harddwch, ac mae wedi rhannu ei thaith Coleg y Cymoedd gyda ni ar gyfer Mis Hanes Menywod eleni.

Pryd ddechreuodd eich taith gyda Choleg y Cymoedd?

Dechreuais fy nhaith gyda Choleg y Cymoedd 17 mlynedd yn ôl, pan ymunais â’r cwrs Therapi Harddwch Lefel 2 yn yr hen Goleg Morgannwg. Cefais fy nenu at y coleg gan ei awyrgylch croesawgar a chymunedol, a brwdfrydedd a gwybodaeth y tiwtoriaid. Ers hynny, rydw i wedi cwblhau’r cwrs Lefel 3 Ymarferydd Harddwch, Adweitheg, ac rydw i nawr yn astudio i fod yn athrawes.

Roedd fy mhrofiad fel dysgwr yn wirioneddol rymusol – cefais yr arweiniad a’r anogaeth yr oedd eu hangen arnaf i dyfu a chyflawni fy nod o redeg fy musnes harddwch fy hun.

Moment gofiadwy i mi oedd dod yn drydydd yng nghystadleuaeth WorldSkills mewn Therapi Harddwch Uwch, lle cawsom ein profi mewn sgiliau fel Triniaeth Ffaradig, Meicrolanhau a Thylino Swedaidd.

Rhoddodd hyn hwb i fy hyder i ddilyn fy mreuddwyd o fod yn berchen ar fy salon harddwch fy hun, ac rydw i’n edmygu sut mae’r coleg yn parhau i gynnig y cyfleoedd hyn i bobl ifanc, gan roi’r un profiadau amhrisiadwy iddyn nhw.

Gwireddwyd eich breuddwyd! Dywedwch fwy wrthym am ble rydych chi nawr.

Rydw i wedi gwireddu fy mreuddwyd o agor fy salon harddwch fy hun, Opulent Tranquility Beauty gan Maria, lle gallaf faldodi fy nghwsmeriaid ffyddlon gydag amrywiaeth o driniaethau a chynhyrchion. Hefyd, rydw i’n gweithio’n rhan-amser fel Cynorthwyydd Gwasanaethau Dysgwyr a Champws ar gampws Nantgarw, lle rwy’n cynorthwyo Cyfarwyddwr y Campws a Phennaeth Gwasanaethau Dysgwyr a Champws i ddarparu amgylchedd cefnogol a deniadol i’r myfyrwyr.

Rydych chi wir yn rhan o deulu Coleg y Cymoedd, felly! Pam ydych chi’n ei garu cymaint?

Mae bod yn rhan o deulu Coleg y Cymoedd yn bleser, ac rydw i’n ddiolchgar am y cyfle i ddychwelyd a gwella fy sgiliau. Mae’r coleg yn dangos ei ymrwymiad i ragoriaeth trwy ddarparu’r offer gorau i’r dysgwyr, a all elwa o ddysgu’r tueddiadau a’r technegau diweddaraf yn y diwydiant harddwch.

A dych chi ddim wedi gorffen dysgu a thyfu gyda ni?

Mae gen i weledigaeth o agor Academi Hyfforddiant, lle gallaf rannu’r hyn rydw i wedi’i ddysgu a’i brofi gyda darpar therapyddion harddwch. Rydw i’n astudio’r cwrs PCeT (Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant) drwy Goleg y Cymoedd, ac fel rhan o hynny, rydw i’n cyflwyno sesiynau i Ddysgwyr Gwallt a Harddwch Lefel Mynediad 3 ochr yn ochr â’m cyn-diwtoriaid.

Mae wedi bod yn gymaint o fraint gweithio gyda nhw. Maen nhw wedi bod gyda mi ar hyd y daith a nawr maen nhw’n fy helpu i fentora’r genhedlaeth nesaf o weithwyr harddwch proffesiynol a’u hysbrydoli i ddilyn eu breuddwydion, yr un ffordd ag y gwnaethon nhw i mi.

Mae Maria yn enghraifft wych o sut y gall Coleg y Cymoedd helpu dysgwyr i gyflawni eu nodau a bod yn arweinwyr yn eu meysydd. Rydyn ni’n falch o Maria ac yn dymuno’r gorau iddi yn ei hymdrechion yn y dyfodol. Mae hi’n fenyw sy’n creu hanes, ac yn helpu menywod eraill i deimlo a chyflawni eu gorau ar hyd y ffordd!

Mae Maria yn dangos sut y gall addysg yng Ngholeg y Cymoedd drawsnewid bywydau, lle mae dysgwyr yn cael dilyn eu breuddwydion a llwyddo yn eu swyddi. Rydyn ni’n ffodus o gael Maria gyda ni a gobeithiwn y bydd yn parhau i dyfu ac ysbrydoli. Yn ogystal â bod yn arloeswr yn ei maes, mae hi’n fodel rôl i fenywod sydd am gyrraedd eu nodau a chefnogi menywod eraill i wneud yr un peth.

Mae Maria wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Profiad Cwsmer Gorau yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Cymru 2024, yn dilyn ei hail wobr Canmoliaeth Uchel yng nghategori Gwobr Dewis y Bobl y llynedd. Dyma gyflawniad anhygoel i salon sy’n cael ei redeg gan un person, ac mae’n dangos angerdd a sgil Maria. Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Maria drwy bleidleisio dros Opulent Tranquility Beauty gan Maria (gweler y manylion isod). Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw 1 Mai 2024: https://www.facebook.com/WelshHairandBeautyAwards/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau