Dysgwr o Gaerffili yn sicrhau lle ar raglen ysgrifennu fawreddog

Mae dysgwr coleg o Gaerffili un cam yn nes at gyflawni ei breuddwydion o fod yn sgriptiwr ffilmiau ar ôl sicrhau lle ar raglen ysgrifennu fawreddog a gynhelir mewn gŵyl lenyddiaeth fyd-enwog.

Mae Cerys Baker, sy’n 16 oed ac yn ddysgwr Coleg y Cymoedd, yn un o ddim ond ugain o ddysgwyr sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan ym Mhrosiect Bannau – rhaglen ysgrifennu arbenigol ar gyfer awduron a newyddiadurwyr uchelgeisiol 16-18 oed o Gymru, a gynhelir yng Ngŵyl y Gelli.

Ymgeisiodd cannoedd o ddysgwyr o ysgolion a cholegau ledled Cymru am le ar rhaglen o weithdai, trafodaethau a digwyddiadau creadigol gyda’r nod o ddatblygu sgiliau ysgrifennu awduron ifanc. Hefyd, mae cyfranogwyr y cynllun yn cael cyfle i gwrdd a gweithio gydag awduron, darlledwyr a newyddiadurwyr proffesiynol i ysbrydoli eu hysgrifennu creadigol a rhoi cipolwg iddynt ar yrfa yn y diwydiant.

Mae Cerys wrthi’n cwblhau ei Safon Uwch Gyfrannol mewn Astudiaethau Ffilm, Seicoleg a Chymdeithaseg, a Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg ac mae hi’n gobeithio bod yn sgriptiwr ffilmiau proffesiynol ryw ddydd. Fe’i hysbrydolir gan ei hoff awduron gan gynnwys awdur poblogaidd The New York Times Rick Rordian. Ar ôl cymryd rhan ym Mhrosiect Bannau, mae hyder y ferch yn ei harddegau i ddilyn gyrfa ei breuddwydion wedi tyfu.

Dywedodd Cerys: “Roedd Prosiect Bannau yn brofiad anhygoel. Roedd y sgyrsiau, y gweithdai a’r gweithgareddau ysgrifennu y gwnaethom gymryd rhan ynddynt yn ystod y rhaglen bedwar diwrnod yn hynod ddiddorol, a dysgais gymaint.

“Fe wnaeth cymryd rhan yn y rhaglen ail-ennyn fy angerdd am ddarllen ac ysgrifennu, ac rydw i nawr yn teimlo’n fwy hyderus nag erioed yn fy sgiliau ysgrifennu creadigol.”

Curodd Cerys gannoedd o awduron eraill i sicrhau ei lle ar y prosiect ar ôl cyflwyno darn o’i gwaith creadigol ei hun ac ateb cwestiynau am ei diddordebau darllen ac ysgrifennu.

Mae cyn-gyfranogwyr Prosiect Bannau Gŵyl y Gelli wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus mewn ysgrifennu creadigol, cyhoeddi, a’r cyfryngau, gan gynnwys y bardd a’r dramodydd arobryn, Owen Sheers a fynychodd gyfnod preswyl ysgrifennu creadigol eleni.

Cafodd Cerys y cyfle i gwrdd â’r bardd a’r dramodydd arobryn o Gymru a’r hanesydd a’r awdur enwog Hallie Rubenhold.

Ychwanegodd Cerys: “Roedd cymryd rhan mewn sgyrsiau a gweithdai gyda llenorion proffesiynol yn y diwydiant fel y nofelydd, y newyddiadurwr a’r darlledwr, Elizabeth Day, a’r awdur, yr actifydd a’r ymgyrchydd yn erbyn tlodi misglwyf yn y DU, Amika George, yn hynod ysbrydoledig.

“Mae gweld y gyrfaoedd llwyddiannus maen nhw wedi mynd ymlaen i’w cael yn y diwydiant llenyddiaeth yn dangos pa mor anhygoel yw Prosiect Bannau. Rydw i’n edrych ymlaen at gymryd popeth rydw i wedi’i ddysgu o’r profiad a dilyn gyrfa fy mreuddwydion o fod yn sgriptiwr ffilmiau.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau