Redd dysgwr o Rondda Cynon Taf yn un o ddim ond 80 o bobl ifanc o ar draws y DU i gael eu dewis i gymryd rhan mewn interniaeth nodedig gan y llywodraeth.<0}
Cafodd Charlotte Bailey, 17 oed o Dreorci, dysgwr Lefel AS yng Ngholeg y Cymoedd, ei dewis yn arbennig o dros 200 o ymgeiswyr ar Raglen Interniaeth Whitehall yn Llundain. Mae’r interniaeth yn gyfle i bobl ifanc weithio mewn nifer o wahanol adrannau’r llywodraeth gan gynnwys y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, yr Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Swyddfa Gartref.
Yn dilyn proses ymgeisio galed, dewiswyd Charlotte i weithio yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad am bythefnos. Yn ystod ei hamser yno, daeth cyfle i ddefnyddio’i sgiliau ieithoedd tramor i gyfathrebu gyda Llysgenhadaeth Sbaen. Ac ar ben hynny, gwelodd Charlotte ei gwaith yn teithio’r byd, gan gynnwys ei chyfraniad at gynllun i wella’r berthynas rhwng Prydain a Phortiwgal ym meysydd ynni, hinsawdd a diogeledd, sydd wedi’i anfon at Llysgenhadaeth Portiwgal yn Lisbon.
Meddai Charlotte, sydd newydd gwblhau ei Lefelau AS yng Ngholeg y Cymoedd, wrth sôn am yr interniaeth: “Roedd yn wych gweld cymaint o werth oedd fy ngwaith ac roeddwn yn wirioneddol mwyhau amrywiaeth y swydd; doedd yr un funud yn ddiflas.
“Un bore byddwn yn gweithio ar brosiect ynghylch hinsawdd economaidd Gwlad Groeg, ac yn y prynhawn yn helpu i drefnu’r Cyfarfod Penaethiaid Llywodraeth y Gymanwlad sydd i’w gynnal ym Malta!â€
Cynllun pythefnos yn cael ei ariannu’n llawn yw Rhaglen Interniaeth Whitehall y Gwasanaeth Sifil. Ei fwriad yw codi dyheadau gyrfa pobl ifanc a rhoi sgiliau a phrofiad iddyn nhw ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae cyfle i interniaid weithio gyda gweinidogion ac uwch weision sifil.
Ar ôl cael blas ar yr interniaeth, mae Charlotte yn ystyried gyrfa yn y gwasanaeth diplomatig ac mae wedi gosod ei gorwelion ar ddilyn ei haddysg yn un o brifysgolion gorau America megis Havard, Stanford a Yale, yn ogystal ag ystyried St Andrews yn y DU.
Meddai Ian Rees, Pennaeth Canolfan Lefel A Coleg y Cymoedd wrth sôn am gyflawniad Charlotte: “Rydym ni’n eithriadol o falch fod Charlotte wedi ennill lle ar Raglen nodedig Interniaeth Whitehall. Mae hi’n enghraifft wych o ddysgwyr sy’n gweithio’n galed yma yn y coleg ac mae’i llwyddiant yn dangos fod y gweithgareddau allgyrsiol rydym yn eu hannog yn gwneud cymaint o wahaniaeth pan ddaw’n adeg i ymgeisio am le mewn prifysgol.
“Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y bydd y profiad hwn yn arwain, maes o law, at lwyddiant pellach yn ei gyrfa.â€