Dysgwr yn cyhoeddi ‘Canllawiau Defnyddio Cyfrifiadur ar gyfer yr Pobl Hŷn’

Mae Amazon, y manwerthwr llyfrau ar-lein wedi cydnabod gwaith cyn ddysgwr o Goleg y Cymoedd.

Mae Aaron George, cyn ddysgwr o gampws Ystrad Mynach o Goleg y Cymoedd yn awdur llyfr annwyl iawn ar gyfer pawb dros 40 sy’n gwbl anllythrennog ym maes cyfrifiaduron.

Bydd Amazon yn stocio’r gyfrol, ‘The Oldies Guide to Using a Computer’, a ysgrifennwyd gan ddysgwr cyfrifiadureg 20 oed o Dretomas.

Cwblhaodd yr awdur ei gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn TG a defnyddiodd ei wybodaeth a’i hiwmor naturiol i greu’r llyfr doniol hwn. Aeth yr egin awdur ymlaen i astudio TG ym Mhrifysgol De Cymru.

Eglurir bod y cyhoeddiad ysgafn hwn yn llawn o “wybodaeth amhrisiadwy ar gyfer rhieni, modrabedd, ewythrod a neiniau a theidiau gan ‘nyrd’ rhwystredig am yr hyn na ddylech ei wneud, yr hyn na allwch ei wneud, a’r hyn yr ydych yn ceisio ei wneud.”

Wrth sôn am yr hyn a’i ysbrydolodd, dywedodd Aaron: “Fe wnes i lunio’r ‘canllaw’ hwn oherwydd mod i wedi cael llond bol ar rai pobl (heb enwi neb) yn gofyn am fy help gyda ‘r tasgau cyfrifiadurol mwyaf syml a sylfaenol.”

“Fe aeth llawer o ymdrech i gael y llyfr yn barod ar gyfer ei gyhoeddi ond gan fod y pwnc mor ddiddorol , doedd e ddim yn dreth arna i o gwbl.”

Dywedodd Dean Howells, Pennaeth Cyfrifiadureg yng Ngholegy Cymoedd: “Mae’n wych bod Aaron wedi gallu cymhwyso’r sgiliau technegol a ddysgodd gyda ni i greu cyhoeddiad ysgafn, doniol a pherthnasol a fydd, dw i’n sicr, yn boblogaidd iawn. Mae’n esiampl o’r hyder a’r entrepreneuriaeth rydyn ni’n ceisio eu feithrin yn ein dysgwyr ym mha faes bynnag maen nhw’n ei ddilyn. Rydyn ni’n hynod falch o Aaron ac yn dymuno’n dda iddo.”

I brynu’ch copi o ‘The Oldies Guide to Using a Computer’ ewch i : http://www.amazon.co.uk/Oldies-Guide-Using-Computer-Second/dp/1505249198/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1429140982&sr=8-1&keywords=the+oldies+guide+to+using+a+computer

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau