Dysgwraig Coleg y Cymoedd yn ennill swydd ar gyfres Netflix boblogaidd

Mae dysgwraig coleg greadigol o gymoedd y de ar fin treulio ei haf yn gweithio ar set cyfres Netflix boblogaidd ar ôl creu argraff ar benaethiaid y diwydiant gyda gwisgoedd a grëwyd ganddi.

Mae Jaye Wakely, sy’n 22 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd ar hyn o bryd yn astudio cwrs mewn llunio gwisgoedd yng Ngholeg y Cymoedd, wedi sicrhau lleoliad gwaith yn gweithio ar ail gyfres y ddrama boblogaidd Netflix i bobl yn eu harddegau, ‘Sex Education’.

Bydd y lleoliad profiad gwaith, sy’n cael ei gynnal dros dri mis, yn golygu y bydd Jaye yn cynorthwyo adran gwisgoedd y sioe wrth ddod o hyd i wisgoedd a’u paratoi ar gyfer aelodau o’r cast.  Hefyd, bydd yn gyfrifol am wneud newidiadau cyflym i ddillad yn barod ar gyfer eu ffilmio.

Gwnaeth y dysgwraig dalentog, sy’n gobeithio dilyn gyrfa mewn llunio gwisgoedd ar gyfer teledu a ffilm yn y dyfodol, gais am y lleoliad gwaith i gael mwy o brofiad yn y sector gwisgoedd ar gyfer y sgrin.

Wrth siarad am y profiad, dywedodd Jaye: “Mae bod yn rhan o sioe mor fawr a phoblogaidd mor gyffrous. Er mai newydd ddechrau fy lleoliad ydw i, rwyf eisoes wedi dysgu cymaint. Mae’r cyfle yn rhoi profiad ymarferol imi o lunio gwisgoedd yn ogystal â golwg gwych o sut beth yw gweithio yn y diwydiant teledu, sy’n symud yn gyflym iawn.

“Mae’r tîm gwisgoedd, a’r criw cyfan, wedi bod yn groesawgar iawn ac rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda nhw ar y set drwy’r dydd, bob dydd. Mae gweithio y tu ôl i’r llenni ar set ffilm yn wirioneddol ddiddorol ac yn dysgu llawer imi – mae’n wych dysgu tra fy mod ar set sioe mor uchel ei pharch. ”

Mae ‘Sex Education’ yn adrodd hanes merch yn ei harddegau sy’n gymdeithasol lletchwith, ac mae ei mam, a chwaraeir gan y seren Hollywood Gillian Anderson, yn therapydd rhyw. Wedi’i ffilmio mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Sir Fynwy a chyn-gampws Prifysgol De Cymru, mae’r gyfres wedi darparu nifer o leoliadau profiad gwaith a chyfleoedd gwaith i fyfyrwyr o Gymru yn y diwydiannau creadigol.

I Jaye, y profiad yw ei  swydd ddiwydiannol gyntaf y tu allan i addysg. Ychwanegodd: “Yn y dyfodol, buaswn wrth fy modd yn gweithio mewn swydd yn creu gwisgoedd ac yn gwisgo ar gyfer y sgrin, gan fod creu a llunio gwisgoedd yn rhywbeth rwy’n ei fwynhau. Rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle hwn i weithio ar Sex Education drwy fy nghwrs gan ei fod wedi rhoi profiad diwydiant anhygoel, amhrisiadwy imi yn syth o’r coleg. ”

Nod y cwrs sylfaen llunio gwisgoedd dwy flynedd yng Ngholeg y Cymoedd, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, yw rhoi cyflwyniad trylwyr i lunio gwisgoedd yn y diwydiannau theatr a ffilm i ddysgwyr. Mae’r coleg hefyd yn cynnig cwrs BA (Anrh) atodol mewn Llunio Gwisgoedd.

I ddysgu mwy am gyrsiau Llunio Gwisgoedd ar gyfer y Sgrin a’r Llwyfan sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i – https://www.cymoedd.ac.uk/costumeconstruction

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau