Dysgwraig Coleg yn dilyn ei breuddwyd theatrig

Roedd Amy Williams, sy’n 19 oed ac yn dod o Bontypridd, wedi breuddwydio am berfformio ar y llwyfan ar hyd ei hoes ond nid oedd yn sicr y gallai greu gyrfa gynaliadwy o’r freuddwyd honno? Mae hi newydd gwblhau cwrs y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg y Cymoedd ac wedi sicrhau lle yn Academi fawreddog Italia Conti yn Llundain i astudio Gradd BA Anrh mewn Theatr Gerddorol – i ddilyn y freuddwyd honno.

Pan oedd Amy’n 16 oed roedd yn ansicr pa lwybr gyrfa i’w ddilyn, llwybr academaidd neu ei phrif ddiddordeb – roedd hi wedi clywed pethau anhygoel am adran y Celfyddydau Perfformio yn y coleg a phenderfynodd fynychu Diwrnod Agored er mwyn gweld drosti hi ei hun.

Ar ôl siarad â thiwtoriaid y cwrs, Jaye Lawrence a Jo Hodges, am y cwrs a’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd, roedd Amy yn gwybod mai dyma le’r oedd hi am astudio; a chyda chefnogaeth y tiwtoriaid, roedd hi’n gwybod y gallai gyflawni ei nod o weithio yn y diwydiant.

Drwy gydol y cwrs, manteisiodd Amy ar bob cyfle a gynigiwyd i ennill rhagor o brofiad yn y diwydiant, a fyddai’n gwella ei CV ac yn sicrhau lle mewn prifysgol ar ôl y cwrs. Mewn amgylchedd cystadleuol iawn, mae paratoi ar gyfer clyweliadau yn hollbwysig ac roedd y cwrs yn cynnig uned gyflawn wedi’i neilltuo i’r pwnc hwnnw, gan fagu hyder ac amlygu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r diwydiant.

Wrth siarad am ei chyfnod yng Ngholeg y Cymoedd dywedodd Amy “Byddwn yn bendant yn argymell y coleg a’r cwrs. Mae’r tiwtoriaid mor gefnogol, yn sicrhau bod pawb yn gwneud cynnydd yn eu haddysg ac yn datblygu’n bwy y dylent fod – y cwrs yw’r peth gorau imi ei wneud erioed. Roeddwn yn teimlo’n rhydd i fynegi fy hun ac arbrofi gyda gwahanol arddulliau ac agweddau ar berfformio; sydd wedi fy ngwneud yn well perfformiwr ac wedi gwneud imi dyfu i fyny a datblygu’n oedolyn ifanc mwy annibynnol.

Mae gan y coleg enw da, ac maent wedi newid fy mywyd. Rwy’n gadael yn unigolyn hollol wahanol. Rwyf wedi cael profiad gwych y gwn y bydd yn fy rhoi mewn sefyllfa dda beth bynnag sydd gan y dyfodol i’w gynnig. Rwy’n llawn cyffro wrth feddwl am ddechrau fy nghwrs gradd tair blynedd yn Llundain, lle rwy’n gobeithio cwrdd â chyd-ddysgwr Coleg y Cymoedd, William Heal, sydd wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn yr Academi.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau