Dysgwraig o’r Cymoedd yn barod am daith unwaith mewn oes i ganolfan ymchwil byd enwog

Mae dysgwr coleg o gymoedd de Cymru wedi cael y cyfle i gael profiad ymarferol o weithio yn un o ganolfannau ymchwil gwyddonol enwocaf y byd.

Bydd Georgia Harkus, dysgwr electroneg 17 oed o Donyrefail, yn mynd i’r Swistir ym mis Mehefin i dreulio dwy flynedd yn gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewropeaidd enwog, CERN.

Yn gartref i’r Gwrthdrawydd Hadron Mawr – y peiriant gwerth biliynau o bunnoedd sy’n efelychu’r eiliad yn dilyn y Glec Fawr ’- mae CERN yn enwog yn fyd-eang am ei ymchwil ffiseg gronynnau arloesol.

Dewiswyd Georgia, sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn olaf ei Diploma Lefel 3 mewn Electroneg yng Ngholeg y Cymoedd, i gymryd rhan yn y rhaglen ar ôl creu argraff ar gynrychiolwyr CERN mewn cyfweliadau. Bydd yn teithio i’r ganolfan am ymweliad cychwynnol ym mis Mawrth, cyn symud i’r Swistir i ddechrau’r rhaglen profiad gwaith ym mis Mehefin.

Bydd y rhaglen yn CERN yn rhoi’r cyfle i Georgia ennill profiad o’r radd flaenaf ym maes peirianneg, gan weithio ar flaen y gad mewn gwyddoniaeth, yn ogystal â’r cyfle i weld y Gwrthdrawydd Hadron ar waith.

Dywedodd Georgia, sy’n gobeithio gweithio mewn peirianneg awyrofod: “Rwy’n gyffro i gyd ar gyfer dechrau fy lleoliad yn CERN. Mae cael fy newis ar gyfer y rhaglen wedi bod yn anhygoel a bydd yn rhoi cyfleoedd anhygoel imi na fyddwn wedi’u cael fel arall. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr imi ac yn datblygu fy sgiliau peirianneg, gan fy helpu i fapio fy ngyrfa yn y dyfodol. Bydd yn anhygoel cael ymdrochi mewn ymchwil niwclear ac ymwneud â darganfyddiadau gwyddonol newydd o bosibl.

“Gallai cyfleoedd pellach godi tra byddaf yn y Swistir a allai arwain at yrfa am oes. Ar ddiwedd y profiad rwy’n gobeithio symud yn ôl i’r DU a fy uchelgais yw gweithio yn y maes awyrennau ar gyfer cwmnïau fel GE neu British Airways.

“Yn ogystal â gweithio yn y ganolfan, rwyf yn edrych ymlaen at symud oddi cartref a threulio dwy flynedd yn y Swistir, dysgu iaith newydd, cwrdd â phobl o gefndiroedd amrywiol a bod yn fwy annibynnol.”

Bydd Georgia yn dilyn ôl-troed cyd-ddysgwr Coleg y Cymoedd, Victoria Griffiths, sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn CERN fel technegydd ar ôl ennill lle ar ei raglen Profiad Hyfforddi Technegwyr (TTE) yn 2017.

Cafodd Victoria, a oedd yn astudio’r Diploma Technegol yng Ngholeg y Cymoedd, ei hysbrydoli i wneud cais am y rhaglen â thâl yn dilyn taith i CERN fel rhan o’i hastudiaethau coleg, lle canfu fod y sefydliad yn galw am dechnegwyr dawnus. Mae’r cynllun, sy’n agored i unigolion â diploma technegol, yn rhoi’r cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn amrywiaeth o feysydd ar flaen y gad ym myd technoleg.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau