Mae tîm o fyfyrwyr arlwyo Coleg y Cymoedd un cam yn nes at ennill £3000 o help i wireddu eu breuddwyd.
Mae Future Foods, yn cynnws Liam Williams (17) o Lantrisant, Robert Haycox (17), Glynrhedynog, (Ferndale), Lauren Quinn (19), Tonypandy, a Flynn Randell (17), o Bontypridd, ar restr fer ar gyfer gwobr tîm ‘Eden Challenge’ ynghyd â dau dîm arall o fyfyrwyr o rannau eraill o’r wlad. Mae chwe chystadleuydd unigol ar y rhestr fer hefyd.
Cystadleuaeth ydy’r Eden Challenge a sefydlwyd gan Sefydliad ‘Edge Foundation’, elusen addysgol annibynnol mewn partneriaeth ag academi menter ‘Peter Jones Enterprise Academy’ a Grŵp Colegau Gazelle. Ei nod ydy helpu entrepreneuriaid ifanc i gychwyn eu busnes.
Gofynnwyd i dimoedd o hyd at bump o bobl neu unigolion i gyflwyno cynnig busnes manwl a dichonadwy gan gynnwys cynlluniau ariannol a marchnata.
Mae syniad newydd Future Foods – Monkey Nuts, fan symudol yn gwerthu bwyd iach i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd wedi sicrau eu bod wedi ennill eu lle yn y rownd nesaf.
Y cam nesaf ydy cyflwyno’u syniad i banel o feirniaid yn Llundain ynghyd ag ymgeiswyr eraill ar y rhestr fer.
Yna, gwahoddir y ddau dîm ar y brig a’r tri chynnig unigol gorau i arddangos eu syniadau yn Sioe Sgiliau sy’n digwydd yn yr NEC yn Birmingham rhwng Tachwedd 13 ac 15. Bydd y tîm sy’n ennill yn cael £5000 i ddatblygu eu syniad. Bydd yr unigolyn â’r syniad gorau yn ennill £3000 a chwe mis o fentora gan ddyn busnes blaenllaw. Mae ail wobr o £1250 a’r drydedd wobr yn £750.
Mae Future Foods yn dweud: Rydyn ni gyd mor gyffrous i gael y cyfle i gynrychioli’r coleg yn y sialens rhyfeddol a chyffrous hon. Fe enwon ni ein busnes yn ‘Future Foods’ gan ein bod i gyd yn fyfyrwyr ar y cwrs arlwyo ac yn edrych ymlaen at agor ein busnes ein hunain fel tîm. Hoffen ni ddiolch i’n tiwtoriaid ymroddedig, Mr Kevin Hall a Ms Paula Marsh, am fod yn gefn i ni drwy ein taith gydag Edge Challenge.”
Dywedodd Jan Hodges OBE, Prif Weithredwr Sefydliad Edge Foundation, yr elusen addysgol elusennol:
“Yn Edge, credwn fod nifer o lwybrau yn arwain at lwyddiant ac mae dod yn entrepreneur yn un ffordd gyffrous a gwych i bobl ifanc i’w chymryd. Rwy’n dymuno pob lwc i Future Foods yn y gystadleuaeth.â€
Mae Peter Jones CBE, Sylfaenydd Sefydliad Peter Jones yn dweud: “Mae Future Foods wedi gwneud yn ardderchog i gyrraedd y cam hwn o’r Sialens. Mae’r gystadleuaeth hon wir yn dangos talent y bobl ifanc, nid yn unig yn meddwl am syniadau a chynhyrchion newydd ond eu dilyn a chreu busnesau ymarferol bosibl. Yn y ‘Peter Jones Enterprise Academy’ rydyn ni’n gweithio’n galed i feithrin nodweddion entrepreneuriaeth yn ein myfyrwyr a dw i wrth fy modd i weld Future Foods yn arwain y ffordd.â€
Dywedodd Fintan Donohue, Prifweithredwr Grŵp Colegau Gazelle: “Rydyn ni wrth ein bodd i weld Sefydliad Edge Foundation a’n cydweithwyr o’r Peter Jones Enterprise Academy yn croesawu diffiniad ehangach o’r gair entrepreneuriaeth. Efallai na fydd llawer o’r bobl ifanc yn datblygu eu busnesau eu hunain ond mae’r arbofi wrth gychwyn wedi datblygu ffordd o feddwl fydd yn cryfhau eu rhagolygon i gael gwaith.
“Yn Gazelle, mae cystadleuaeth menter wedi tyfu’n rhan annatod o brofiad y myfyrwyr. Bydd y modelau rôl o fyfyrwyr sy’n ennill heddiw yn help i greu traddodiad o fenter ac entrepreneuriaeth yn eu colegau eu hunain.â€
Rydyn ni’n cynnig cyrsiau Arlwyo ar dri champws – Aberdâr, Nantgarw ac Ystrad Mynach. Galwch hebio i drafod ymuno â chwrs Arlwyo llawn amser neu un rhan amser, ar gyfer 2014/15 fel rhywun yn cychwyn yn hwyr, neu ar gyfer Medi nesaf, blwyddyn 2015/16.
“