Mae dysgwraig a gollodd llawer o’r ysgol yn y gorffennol wrth frwydro’n erbyn pryder yn ceisio codi ymwybyddiaeth am salwch meddwl ar ôl i oedolyn ei galw’n ‘hormonaidd’.
Mae Bethany Lamb sy’n ddysgwraig yng Ngholeg y Cymoeddd yn gweithio gyda ‘Fixers’ i helpu ysgolion ganfod problemau salwch meddwl fel y gallan nhw helpu disgyblion.
Dywed Bethan, sy’n astudio ar gwrs Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdetihasol ar gampws Ystrad Mynach: “Roedd pawb yn dweud mai hormonau oedd y broblem ac y byddwn yn dod drwyddi.
‘Dw i am i bethau newid. Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i bobl sylweddoli’r gwahaniaeth rhwng ymddygiad sy’n mynnu sylw a phroblemau dilys fel bod pobl ifanc sy’n dioddef o bryder yn gallu cael yr help sydd ei angen arnyn nhw.â€
Mae’r ddysgwraig 17 oed o’r Coed-duon yn dweud i’w phrofiad ei gadael yn teimlo’n fwy pryderus ac yn fwy ynysig.
Mae’n dweud: “Ym mlwyddyn naw roeddwn i’n cael fy nhynnu allan o wersi o dro i dro ac yn ystod fy chwe mis olaf, chwalodd fy nerfau ac ron i’n methu â cherdded drwy giatau’r ysgol hyd yn oed.
“Mae ysgolion yn derbyn llawer o help ar gyfer yr anabl a’r rhai ag anawsterau dysgu, ond ddim cymaint ar gyfer problemau iechyd meddwl megis pryder.â€
Gyda ‘Fixers’ mae Bethany wedi creu taflenni a chardiau busnes yn amlygu symptomau pryder.
Dywed Bethany: “Gobeithio bydd pobl yn darllen y daflen ac yn gallu cydymdeimlo â pherson sy’n dioddef o bryder. Yn y pen draw, dwi am i bobl gymryd salwch meddwl pobl ifanc o ddifrif.â€
Dechreuodd Bethany fynd i weld cwnsler a dyna pryd dechreuodd ddeall ei phryder a gallu ystyried dulliau i ymdopi â salwch meddwl.
Erbyn hyn, mae’r ferch ifanc, a lwyddodd yn ei harholiadau TGAU er gwaethaf colli ysgol, yn astudio ar gwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Ystrad Mynach ac yn edrych ymlaen at ei dyfodol.
Cewch ragor o wybodaeth am waith ‘Fixers’ ar: http://www.fixers.org.uk/index.php?module_instance_id=1133&option=change_language&language=1