Dysgwyr Adeiladwaith yn ymgymryd â’r her

Aeth grŵp o ddysgwyr y Diploma Lefel 1 mewn Adeiladwaith benben mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd ar gampws Aberdâr. Dyma’r gystadleuaeth Adeiladwaith fewnol gyntaf a gynhaliwyd ar y campws newydd ac roedd yn ganlyniad sgwrs rhwng y tiwtoriaid ynghylch rhoi cyfle i’r dysgwyr brofi eu sgiliau.

Ymgymerodd pob un o’r tri ar ddeg o ddysgwyr Bricwaith â’r her o adeiladu wal i safon uchel o gynllun adeiladu / diagram, o fewn 4.5 awr. Nod y gystadleuaeth, oedd adlewyrchu rôl briciwr a helpu gwella hyder dysgwyr i gymryd y cam cyntaf yn eu gyrfa mewn bricwaith.

Defnyddiodd y dysgwyr y sgiliau a ddatblygwyd yn y gweithdy, ac fe’u marciwyd ar feysydd fel gosod, lleoli dimensiwn a bondio, mesur, lefelu, plymio a’r holl sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr adeiladu.

Roedd Steve Llewellyn a John Wayman wedi eu plesio gan y ffordd broffesiynol yr aeth y dysgwyr i’r afael â’r her a’r gwaith o ansawdd uchel a gynhyrchwyd ganddynt. Wrth siarad ar ran staff Adeiladwaith, rhoes John Wayman, tiwtor y cwrs, ddiolch i’r cyflenwyr adeiladu Jewson am eu nawdd hael i’r gweithgaredd a llongyfarchodd yr holl ddysgwyr am gymryd rhan ac am eu brwdfrydedd tuag at yr her.

Ychwanegodd “Roeddem am roi cyfle i’r dysgwyr wneud eu hunain yn fwy cyflogadwy ac mae cystadleuaeth fel hon yn cael effaith gadarnhaol ar eu hastudiaethau. Braf oedd gweld pa mor falch oedd y dysgwyr wrth iddynt ddangos eu sgiliau drwy gydol y gystadleuaeth.

Wrth siarad ar ôl yr her, dywedodd y dysgwr 19 oed o Gwmbach, Aberdâr, Owen Jones ei fod wedi mwynhau’r gystadleuaeth yn fawr. Roedd yn brofiad da o ran ein paratoi ar gyfer gwaith ac fe’n marciwyd ar yr holl sgiliau angenrheidiol ar gyfer gwaith yn y diwydiant Adeiladwaith.

Dywedodd Lloyd Carter, rheolwr ardal Jewson, Aberdâr “Roeddem yn hapus i gefnogi’r her yn y coleg ac roedd yn anhygoel gweld safon y gwaith a gynhyrchwyd gan y dysgwyr hyn. Gyda thuedd ar i fyny yn y sector, mae gan y dysgwyr gyfle gwych yn y coleg i feithrin y sgiliau perthnasol i lwyddo yn y diwydiant. Mae’r staff mor frwdfrydig a chefnogol ac mae’r cyfleusterau yn y campws newydd o’r radd flaenaf”.

Ychwanegodd Mark Thomas, Cyfarwyddwr Campws Aberdâr, “Rydym yn ddiolchgar i Jewson am noddi’r her ac mae’n rhaid imi ddiolch i’r holl staff a’r dysgwyr am gefnogi’r her. Ers symud i’r campws newydd rydym wedi gweld diddordeb sylweddol mewn ceisiadau ar gyfer ein cyrsiau adeiladwaith. Mae cystadlaethau fel hyn yn cael effaith mor gadarnhaol ar y dysgwyr trwy eu hymestyn a’u herio i gyflawni eu potensial ”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau