Mae dysgwyr ar y cwrs arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd yn dathlu ar ôl cael y cyfle i ddarparu lletygarwch yn ystod un o seremonïau gwobrwyo mawr y flwyddyn .
Cafodd pedwar dysgwr sy’n astudio ar gwrs Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Bwyd a Diod gyfle i helpu gyda’r paratoadau ar gyfer gwobrau Brit yn Arena O2.
Drwy bartneriaeth gyda Chartwells, cafodd pedwar dysgwr o Gampws Nantgarw gyfle i ymuno â Diwrnod Profi Lletygarwch Byw (Hospitality Live Experience Day) ar gyfer paratoi at Seremoni Wobrwyo BRIT.
Teithiodd Liam Williams, Robert Haycox, Jessica Edwards a Tyler Richard i Lundain Ddydd Llun yr 22ain i gychwyn gweithio yn arena O2 Ddydd Mawrth yr 23ain i baratoi ar gyfer y seremoni wobrwyo Dydd Mercher y 24ain.
Gweithiodd y dysgwyr gyda thîm o staff Payne & Gunter, cwmni arlwyo digwyddiadau proffesiynol i baratoi’r arena ar gyfer y gwesteion enwog. Tra roedd y dysgwyr yn paratoi’r ystafell ar gyfer y seremoni roedd yr artistiaid yn ymarfer a phrofi’r system sain.
Roedd y dysgwyr hefyd yn ddigon ffodus i gael mynd o gwmpas mannau arlwyo eraill yr O2 gan gynnwys ystafell fwyta Diamond a’r lleoliad ar ôl parti, is-geginau, yr ystafelloedd a’r allfannau Mantais.
Dywedodd Jessica Edwards, 20 oed o Bontypridd, a fynychodd y seremoni: “Roedd Seremoni Gwobrwyo BRIT yn ddigwyddiad rhyfeddol ac hefyd gallai’r profiad hwn agor drysau i swyddi yn y dyfodol.â€
Dywedodd Paula Marsh, Pennaeth Ysgol Arlwyo Coleg y Cymoedd: “Mae hwn yn gyfle gwych i’n dysgwyr weithio mewn digwyddiad mor nodedig ac yn un enghraifft o’r profiad unigryw gaiff y dysgwyr yn ystod eu hamser gyda ni.â€
Mae gan Goleg y Cynoedd enw ardderchog am arlwyo a lletygarwch gyda dysgwyr wedi derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf gan ein tîm proffesiynol. Mae gan y Coleg dri bwyty sy’n cael eu rhedeg ar y cyd gan staff a dysgwyr ac maen nhw ar agor i’r cyhoedd – Bwyty Llewellyns, Bwyty Nant a Bwyty Scholars . Ewch i: www.cymoedd.ac.uk/restaurants