Dysgwyr Chwaraeon y Cymoedd yn cefnogi Gŵyl Cwpan y Byd Pêl-droed” Caerffili”

Yn ddiweddar cefnogodd grŵp o hanner cant o ddysgwyr y Cymoedd Gwpan y Byd Pêl-droed Caerffili ar gyfer ysgolion cynradd; a gynhaliwyd yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn Ystrad Mynach.

Cynorthwyodd y Dysgwyr Chwaraeon Lefel 3 – Blynyddoedd 1 a 2 sy’n astudio yng nghampws Ystrad Mynach gyda’r digwyddiad a drefnwyd gan Chwaraeon Caerffili ac a noddwyd gan Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mynychodd dros 500 o ddisgyblion o bob un o’r 46 ysgol gynradd ar draws y Fwrdeistref Sirol y digwyddiad a gynlluniwyd i gyd-fynd â Chwpan y Byd FIFA a gynhelir yn Rwsia’r haf hwn; pob ysgol yn cynrychioli gwlad wahanol.

Chwaraeodd dysgwyr y Coleg ran bwysig yn y digwyddiad, gan ddyfarnu’r gemau rhwng disgyblion brwdfrydig Blwyddyn 5 a 6. Cydnabuwyd eu cyfranogiad gan y Cyng. David Poole, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a roes ddiolch iddynt am ymwneud â’r digwyddiad.

Dywedodd Lisa Reynolds – Cydlynydd y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon Am ddigwyddiad gwych, roedd y dysgwyr yn gallu gweld beth sy’n gysylltiedig â chynnal twrnamaint ar raddfa fawr. Wrth i’r dysgwyr weithio’n agos gyda Datblygu Chwaraeon Caerffili, roeddent yn gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ganddynt “.

Meddai Caitlin Morris sy’n astudio ar y cwrs BTEC “Roedd y plant wedi’u cyffroi’n lân ac fe wnaethom fwynhau hyfforddi a dyfarnu. Dyma’r digwyddiad mwyaf inni fod yn gysylltiedig ag ef. Yn benodol, cawsom y cyfle i hyfforddi amrywiaeth o alluoedd “.

Ymunodd cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru â’r dorf yn y digwyddiad sy’n awyddus i weld rhagor o chwaraewyr ifanc yn cael eu hannog i ymgysylltu â chlybiau pêl-droed cymunedol lleol.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau