Mae dau ddysgwr o’r Ganolfan Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd wedi ennill Gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i gydnabod eu llwyddiant academaidd rhagorol.
Roedd y coleg yn falch iawn o groesawu Mr. Geoff Hughes, Cyn-Feistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, yng nghwmni’r Lifreiwr, Miss Margaret Davies, i gampws Nantgarw i gyflwyno’r Wobr a siec o £125 i’r dysgwyr, Carys Lewis a Jacob Jones .
Astudiodd Carys a Jacob ill dau yng Nghanolfan Safon Uwch y coleg, gan ennill graddau arbennig.
Enillodd Carys dair gradd A* mewn Cemeg, Mathemateg a Ffiseg, gan sicrhau lle i astudio Cemeg yng Ngholeg Caerwysg Prifysgol Rhydychen.
Ac enillodd Jacob bedair gradd A* mewn Ffiseg, Cemeg, Mathemateg a Mathemateg Bellach a bydd yn astudio Ffiseg yng Ngholeg yr Iesu Prifysgol Rhydychen.
Wrth gyflwyno’r Wobr, llongyfarchodd Mr. Geoff Hughes Carys a Jacob ar eu canlyniadau Safon Uwch ac ar sicrhau lle ym Mhrifysgol Rhydychen. Eglurodd mai un o brif nodau Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yw hyrwyddo addysg yng Nghymru ac mae’r ‘Gwobrau Ysgolion’ yn rhoi’r cyfle i gydnabod dysgwyr sydd wedi cael canlyniadau rhagorol.
Wrth sôn am eu cyflawniadau a’r Wobr, dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth, “Rydym mor falch o Carys a Jacob. Dyma gyflawniad gwych, a gwn eu bod wedi gweithio’n galed i ennill y graddau ar gyfer Rhydychen. Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol ac rwy’n siŵr, o ystyried eu hymrwymiad, y byddant yn cyflawni eu huchelgeisiau. Rwy’n gobeithio y bydd y ddau yn cadw mewn cysylltiad â’r coleg i ysbrydoli dysgwyr y dyfodol. Hoffwn ddiolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru; rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth barhaus i ddysgwyr Coleg y Cymoedd ac rwy’n siŵr y byddent yn cytuno – mae Carys a Jacob yn enillwyr teilwng iawn”.