Ers symud i leoliad yng nghanol y dref; mae staff a dysgwyr yng nghampws Aberdâr Coleg y Cymoedd wedi bod yn rhagweithiol wrth lunio cysylltiadau â busnesau a sefydliadau.
Yr enghraifft fwyaf diweddar o weithio mewn partneriaeth yw’r Arddangosfa Cyfryngau Creadigol sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd yn Oriel Mesanîn Amgueddfa Aberdâr.
Ymhlith yr ystod eang o waith dysgwyr mae ffotograffiaeth syfrdanol, gwaith celf sy’n pryfocio a phrosiectau cyfryngau cyffrous; a phob darn wedi’i gynhyrchu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Mae dysgwyr Lefel 1 a 2 Cyfryngau Creadigol Llawn Amser, a leolir yng nghampws Aberdâr, yn astudio ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys Celf, Cyfryngau, Dylunio, Cerddoriaeth, Ffotograffiaeth a Sgiliau Crefft amrywiol. Mae hyn yn helpu’r dysgwyr i edrych ar wahanol agweddau ar Gelfyddydau Creadigol a’r Cyfryngau i’w helpu i symud ymlaen ac arbenigo mewn llwybr Diwydiannau Creadigol o’u dewis.
Dywedodd Donna Price, un o’r Tiwtoriaid Creadigol: Mae’r dysgwyr wedi bod yn gyffrous iawn i arddangos eu gwaith yn yr amgueddfa. Maent wedi gweithio’n galed iawn i gynhyrchu arddangosfa mor broffesiynol. Mae Diwydiannau Creadigol De Cymru’n chwilio am feddylwyr creadigol cryfion a gallai ein cyrsiau fod yn yrfa gyffrous iddynt hwy “.
Ychwanegodd Roisin McGarvey, Dysgwr Creadigol Lefel 1 “Roeddwn yn teimlo’n falch iawn wrth weld fy ngwaith yn yr amgueddfa, oherwydd rwyf yn teimlo fy mod wedi gweithio’n galed iawn ac nid wyf erioed wedi gweld fy ngwaith yn cael ei arddangos o’r blaen. Braf iawn oedd gweld gwaith caled pawb arall yn cael ei arddangos hefyd “.
I weld yr arddangosfa, ewch i Amgueddfa Aberdâr, Depot Road, Aberdâr, CF44 8DL o 7 Mehefin – 4 Gorffennaf.
“