Daeth llu o wobrau i ddysgwyr a staff Coleg y Cymoedd wrth i 2014 dynnu i’w therfyn, a hynny ar draws adrannau academaidd a galwedigaethol.
Mae’r coleg, gyda’i 3000 o ddysgwyr mewn pum campws ym Mwrdeistrefi Rhondda Cynon Taf a Caerffili, yn dathlu ennill gwobrau cenedlaethol gan yr adrannau peirianneg, trin gwallt a harddwch, academaidd a Lefel A.
Mae CBAC wedi rhoi achos arbennig i’r coleg ddathlu, wrth i’r bwrdd arholi gyhoeddi bod un o’r dysgwyr wedi ei dewis fel Dysgwraig y Flwyddyn Lefel 1 Bagloriaeth Cymru.
Mae Dion Newtown, 18, o Gwm Clydach, ar hyn o bryd yn gweithio ar ei Bagloriaeth Cymru fel rhan o’i sgiliau ar gyfer y cwrs astudiaethau pellach ar Gampws Rhondda y coleg. Yn ogystal â’i gwaith coleg, teithiodd Dion i wlad Cambodia yn gynharach yn y flwyddyn i wneud gwaith gwirfoddol gyda’r Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor (VSO).
Mae CBAC hefyd wedi cyhoeddi mai cyn-ddysgwraig Lefel A o Goleg y Cymoedd, Shannon Britain, oedd wedi sgorio’r marc uchaf yn Y Gyfraith lefel A drwy Gymru a Lloegr gyfan eleni. Cafodd Shannon farciau llawn yn ei harholiad ar y gyfraith, a golygodd ei graddau A*, A* A (yn Lefel A, Y Gyfraith, Llên Saesneg a Hanes) iddi gael lle i astudio Llên Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Ac yn Ffeinal Sgiliau Byd-eang ‘WorldSkills’ 2014 trechodd Ashleigh Simmons, dysgwraig trin gwallt a harddwch ar gampws Nantgarw, dros 300 o rai eraill i dderbyn gwobr efydd a chyfle i hyfforddi gyda Sgwad Trin Gwallt Prydain. Yn ystod yr achlysur, enillodd Ashleigh y wobr ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymru, gyda’i chyd-ddysgwraig ar yr un cwrs, Bethan Walters, yn cael y drydedd wobr.
Mae tîm peirianneg o goleg Nantgarw wedi eu cadarnhau fel Tîm Addysg Bellach y Flwyddyn y DU yng Ngwobrau blynyddol Dysgu y ‘Pearson Teaching Awards’.
Derbyniodd y tîm o 28 o’r adran y wobr arian i gydnabod yr arbenigedd sydd yno ym meysydd awyrofod, peirianneg trydanol a mecanyddol a’u dyfalbarhad i fod y darparydd hyfforddiant prentisiaid gorau yng Nghymru.”
Wrth drafod y gwobrau, dywedodd Judith Evans, pennaeth Coleg y Cymoedd:
“Mae ein coleg i gyd yn cyd-lawenhau yn y casgliad o wobrau ddaeth i’n rhan. Mae’r cydnabyddiaethau hyn yn ddiwedd perffaith i flwyddyn eithriadol i Goleg y Cymoedd ac yn arwydd o ddyfalbarhad a gwaith caled ein dysgwyr a’n staff addysgu.
“Ar ran y coleg i gyd, rydw i’n llongyfarch Dion, Shannon, Bethan ac Ashleigh. Mae’r llwyddiannau hyn yn wobrau teilwng i’w ymroddiad dros eu datblygiad personol ac rwy’n siwr bydd llawer yn eu dilyn yn y dyfodol agos.
“Rydyn ni hefyd yn llongyfarch ein hadran beirianneg am eu camp eithriadol yng ngwobrau’r Pearson Awards. Mae arweinyddiaeth a staff yr adran yn esiampl o ymrwymiad i’r trylwyredd addysgol sy’n bodoli drwy bob un campws yn y coleg.
“Wrth i ni edrych ymlaen i’r Flwyddyn Newydd, fe hoffwn i ddiolch i’n holl ddysgwyr, staff a phartneriaid corfforaethol, am eu hymdrechion ar y cyd i sicrhau bod ein coleg yn parhau i lwyddo yn ei genhadaeth i gryfhau cymunedau De Cymru drwy waith addysgol ardderchog a hyfforddiant galwedigaethol gwych.â€
“