Ymunodd tri chynrychiolydd o Goleg y Cymoedd â dros 100 o gyfranogwyr o 40 gwlad yn Fforwm Blynyddol EQAVET.
Ymunodd Jordan Lawrence a Jacob Morrissey sy’n astudio prentisiaeth beirianneg yng Ngholeg y Cymoedd â Chydlynydd Sgiliau Hanfodol Cymru, Michelle Simmonds, a gyflogir yn yr adran Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg y Cymoedd.
Cynhaliwyd Fforwm eleni yn Fienna a threfnwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, Ysgrifenyddiaeth EQAVET a Phwynt Cyfeirio Cenedlaethol Awstria (ARQA-VET) ac roedd yn rhan o Wythnos Sgiliau Galwedigaethol Ewrop.
Rhoes y digwyddiad gyfle i drafod profiadau dysgwyr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) presennol a blaenorol o Awstria, y Ffindir, Romania a’r DU (Cymru); a’r ffyrdd y mae darparwyr a systemau cenedlaethol y gwledydd hyn yn cefnogi ac yn annog dysgwyr i gymryd rhan mewn prosesau sicrhau ansawdd.
Wrth siarad ar ôl y Fforwm, dywedodd Michelle “Cafodd Phil Whitney, ColegauCymru EQAVET NRP yn y DU (Cymru) a minnau’r cyfle i wneud cyflwyniad a oedd yn amlinellu dull Dysgu Seiliedig ar Waith Cymru a manteision a heriau cael dysgwyr yn rhan o’r broses cynllunio a darparu DSW yng Nghymru.
Bu Jordan, 20 oed o Bontypridd a Jacob, 21 oed o Gaerffili, hefyd yn rhan o banel yn rannu eu profiadau gyda phobl eraill yn y fforwm ac yn ymateb i unrhyw gwestiynau uniongyrchol gan y gynulleidfa. Roeddent yn fodelau rôl ardderchog drwy gydol y digwyddiad, yn rhannu eu profiadau personol eu hunain o Ddysgu Seiliedig ar Waith, a’r sgiliau, y wybodaeth a’r cynnydd a wnaed trwy gydol eu prentisiaethau.
Cyflwynodd y ddau eu hunain yn dda iawn, gan ddangos proffesiynoldeb, moesgarwch ac aeddfedrwydd rhagorol. Dangosodd eu straeon y nifer amrywiol y mae’r ddarpariaeth VET yn elwa o gael safbwynt y dysgwyr a pham y dylai lywio prosesau sicrhau ansawdd a roddir ar waith”.
Mwynhaodd y ddau ddysgwr y profiad a chawsant argraff dda ar y Fforwm a’r gwerth a roddir ar lais dysgwyr; ynghyd â phwysigrwydd eu rôl wrth gryfhau ansawdd Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET).
Wrth siarad am ei brofiad, dywedodd Jacob “Rhoes y Fforwm gyfle i mi a Jordan drafod ein cymhelliant wrth ddewis rhaglen Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysgol (VET) ac amlygu gwerth ein profiad o Ddysgu Seiliedig ar Waith o ran rôl dysgwr wrth wella’r rhaglen.
Rydym yn ffodus bod ein cyflogwyr, Axiom Manufacturing Services Ltd ac Al-Met Ltd yn cydnabod y sgiliau uwch yr ydym yn eu dysgu a’r syniadau newydd yr ydym yn eu dwyn yn ôl i’n cwmnïau; rydym bob amser yn cael ein hannog i gyfrannu at welliannau yn ansawdd y ddarpariaeth “.
“