Dysgwyr y Coleg yn ymgymryd â Her y Tri Chopa er anrhydedd i’w tiwtor

Mae chwe ffrind sy’n astudio mewn coleg yn y de-ddwyrain ar fin ymgymryd â Her Tri Chopa Cymru i godi arian i Sefydliad Prydeinig y Galon er anrhydedd i diwtor eu cwrs sydd wedi colli anwyliaid yn sgil cyflyrau’r galon yn ddiweddar.

Bydd dysgwyr o Goleg y Cymoedd, Josh Evans (21), Cameron Williams (24), Josh Thomas (21), Iwan Sheridan (22), Haydn Dummett (20), a Joe Laver (21), yn mynd ati i gwblhau Her Tri Chopa Cymru fis nesaf pan fyddan nhw’n cerdded cyfanswm o 17 milltir ac yn dringo 7,657 o droedfeddi ar fynyddoedd yr Wyddfa, Cader Idris, a Phen y Fan o fewn 24 awr.

Cafodd y dysgwyr eu hysbrydoli i ymgymryd â’r her gan eu tiwtor peirianneg ers pedair blynedd, Neil Meredith, a gollodd ei chwaer a’i dad yn sgil salwch yn ymwneud â’r galon. Mae’r grŵp yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r 340,000 o bobl yng Nghymru mae clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yn effeithio arnyn nhw, ac maen nhw eisoes bron â dyblu eu nod codi arian o £700.

Ar ôl helpu’r chwe dysgwr ar eu cymwysterau peirianneg dros y blynyddoedd diwethaf, o’u cyrsiau BTEC lefel 3 cychwynnol mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig yn 2019, i’w cymwysterau Tystysgrif Genedlaethol Uwch a’u prentisiaethau gyda phartneriaid cyflenwi Coleg y Cymoedd – Trafnidiaeth Cymru, Nexperia Casnewydd, a Cytiva – mae Neil wedi bod yn fentor amhrisiadwy ac yn ffynhonnell cymorth i’r criw o ffrindiau.

Meddai Cameron Williams, a feddyliodd am y syniad gwreiddiol o ymgymryd â’r her godi arian: “Mae Neil wedi bod yn fwy na thiwtor i ni. Mae wastad wedi bod mor gefnogol, ar lefel bersonol a phroffesiynol, drwy gydol ein hamser ni yn y coleg, ac mae wedi cael effaith aruthrol ar ein gyrfaoedd yn y dyfodol. Dyma ein ffordd ni o ddangos pa mor ddiolchgar ydyn ni iddo fe ac rydyn ni’n awyddus iawn i godi rhywfaint o arian a fydd yn helpu pobl eraill fel chwaer a thad Neil yn y dyfodol.”

Roedd y dysgwyr, sydd wedi mwynhau cerdded mynyddoedd gyda’i gilydd erioed, yn teimlo mai dyma’r ffordd berffaith i fynegi eu diolch i Neil. Mae’r chwe ffrind wedi bod yn paratoi ar gyfer yr her ers mis Chwefror, ac yn cadw’n ffit drwy feicio, rhedeg, a cherdded yn ogystal â chadw llygad ar gynnydd hyfforddiant ei gilydd a herio’i gilydd i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer yr her. 

Ychwanegodd Joe: “Mae’n mynd i fod yn anodd cwblhau’r her yma, felly mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd, ac yn gwthio ein gilydd i wneud yn siŵr ein bod ni’n hyfforddi cymaint ag y gallwn i gyflawni’r her. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyrraedd copa Pen y Fan ar ddiwedd y dydd, agor potel o gwrw oer a chodi llwnc destun i Neil, ei chwaer a’i dad, yn ogystal â’r holl bobl fyddwn ni’n gallu eu helpu drwy godi arian.”

Mae Neil, sydd wedi bod yn ddarlithydd peirianneg yn Coleg y Cymoedd ers pedair blynedd, wedi’i syfrdanu gan gefnogaeth y grŵp a’r rhai sydd wedi cyfrannu hyd yma.

Meddai: “Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o addysg y bechgyn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod yn wych eu gweld nhw’n datblygu ac yn gwella eu sgiliau peirianneg. Dw i wedi fy syfrdanu eu bod am ymgymryd â her y tri chopa er cof am fy chwaer, Helen Meredith, a chodi arian i Sefydliad Prydeinig y Galon. Mae’r teulu cyfan yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth.”

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, bydd un o bob pedwar o bobl yn marw o glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yn y de. Meddai Carys Jenkins, Rheolwr Codi Arian Sefydliad Prydeinig y Galon yn y de-ddwyrain: “Rydyn ni mor ddiolchgar i’r tîm yng Ngholeg y Cymoedd am osod yr her i’w hunain o gwblhau Tri Chopa Cymru a dewis cefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.

Mae ymchwil arloesol yr elusen i glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yn cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan y cyhoedd a chefnogwyr fel nhw, felly fydden ni ddim yn gallu gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud hebddyn nhw.  Os bydd hyn yn ysbrydoli unrhyw un arall i ymgymryd â her debyg a chodi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, bydd y cyfan yn helpu i wneud gwahaniaeth i deuluoedd yng Nghymru.”

I ddilyn taith y grŵp ar draws mynyddoedd Cymru ar 22 Ebrill 2023 ac i gyfrannu, ewch i dudalen GoFundMe y criw: https://gofund.me/e7942c20

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau