Dysgwyr y cwrs arlwyo’n llunio sgiliau newydd mewn dosbarth meistr cerflunio ia

Bydd Joseph Evans o Goleg y Cymoedd yn chwarae pêl-droed ar y maes rhyngwladol ar ôl iddo gael ei ddewis i gynrychioli Colegau Cymru yn yr Eidal.

Bydd y peldroediwr talentog yn teithio i Rufain yr wythnos nesaf i gystadlu yn Nhwrnameint y Roma Caput Mundi ynghyd â chwaraewyr eraill o bob rhan o Gymru.

Roedd Joseph, 17 oed ac yn dod o Bontyrpidd, ac sy’n astudio Lefel 3 BTEC Chwaraeon yn un o 15 chwaraewr o golegau Cymru a gafodd eu dewis i gymryd rhan yn y gystadleuaeth drwy wahoddiad yn unig a fydd yn cynnwys timoedd rhyngwladol o hyd a lled Ewrop.

Bydd tîm Colegau Cymru o dan 18 oed yn chwarae tair gêm yn erbyn Ynys Melita (Malta), Yr Eidal ac Albania i geisio gyrraedd y ffeinal. Yn ystod eu hamser yn yr Eidal bydd y chwaraewyr yn cael cyfle i fynd ar deithiau diwylliannol yn Rhufain.

Dywedodd Joseph: “Ron i wedi synnu mod i wedi cael fy newis i chwarae i Golegau Cymru yn y gystadleuaeth hon dramor ac dwi’n edrych ymlaen i fynd i’r Eidal am y tro cyntaf.”

Dywedodd Phillip Thomas, Tiwtor Chwaraeon a Chydlynydd Pêl-Droed: “Mae Joseph wedi cael blwyddyn eithriadol o ran ei yrfa pêl-droed ac mae’n gwella o hyd. Mae hefyd yn fyfyriwr brwd oddi ar y maes chwarae ac rydyn ni wrth ein bodd ac yn falch iawn ei fod wedi cael ei ddewis i gael y profiad hwn.”

Mae’r Academi Chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd yn caniatáu i ddysgwyr rannu eu hamser rhwng gweithio tuag at gymhwyster perthnasol a gwella eu sgiliau ar y maes. Yn ddiweddar, lansiodd y coleg Academi Pêl- Droed Merched Elît gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi’i leoli ar gampws Ystrad Mynach.

Mae Coleg y Cymoedd hefyd yn cynnig llwybrau ym maes rygbi ac yma mae Academi Gleision Caerdydd (Gogledd). Gall y myfyrwyr Chwaraeon BTEC gael cyfle i hyfforddi ochr yn ochr â chwaraewyr y Gleision a derbyn hyfforddiant gan hyfforddwyr y Gleision. Cewch ragor o fanylion am gyrsiau chwaraeon Coleg y Cymoedd ar y wefan: www.cymoedd.ac.uk/courses/subject-areas/sport.aspx?lang=cy

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau