Mae Coleg y Cymoedd wedi derbyn gwobr fawr am ei ymrwymiad a’i ymroddiad i greu gweithlu teg a hyblyg.
Mae’r Coleg, sy’n cyflogi dros 900 o staff ar bum campws yn Mwrdeistrefi Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, yn cael ei gydnabod fel ‘cyflogwr enghreifftiol’ gan yr elusen datblygiad economaidd Chwarae Teg.
Neilltuir y wobr i fusnesau a sefydliadau sydd wedi arddangos arferion cyflogaeth rhagorol, yn cynnwys ymroddiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle, sy’n mynd ymhellach na’u cyfrifoldeb cyfreithiol.
Derbyniodd Coleg y Cymoedd y wobr i gydnabod ei waith yn codi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau’r cyflogai i sicrhau diwylliant parhaus o gydraddoldeb a hyblygrwydd o fewn y coleg.
Drwy weithio mewn partneriaeth â Chwarae Teg, cynhaliodd Coleg y Cymoedd adolygiadau cyflawn o’i arferion gwaith i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant ac ymglymiad staff a darpariaeth gweithio’n hyblyg ar gyfer yr holl staff.
Wrth drafod llwyddiant y wobr, dywedodd Joy Kent, prif weithredydd Chwarae Teg: “Mae Coleg y Cymoedd yn gwerthfawrogi gwir werth rhoi cydraddoldeb ac amrywiaeth yng nghanol popeth sy’n digwydd yno. Mae yna achos busnes cadarn dros fabwysiadu’r dull hwn o fynd ati gan iddo gael ei brofi ei fod yn cynyddu cynhyrchiant a gwneud sefydliadau’n fwy cynaliadwy.
“Rydw i’n llongyfarch Coleg y Cymoedd am ei ymrwymiad i greu gweithlu amrywiol a hyblyg.â€
Mae Chwarae Teg yn gweithio i greu amgylchedd yng Nghymru lle gall merched gyflawni a llwyddo ac, fel rhan allweddol o hyn, mae’n hyrwyddo arferion blaengar ym maes cyflogaeth. Mae’r wobr yn cydnabod sefydliadau a busnesau drwy Gymru sy’n teithio’r ail filltir i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.
Yn ei sylwadau am y wobr, dywedodd David Spencer, swyddog adnoddau dynol yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Coleg y Cymoedd yn gwneud ymdrech i fod yn ddewis o gyflogwr, yn hyrwyddo amgylchedd weithio iach a chefnogol, tra’n apelio i weithlu’r dyfodol drwy hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a hyblygrwydd.
“Mae’r Coleg yn hynod falch o dderbyn y wobr a bydd yn parhau i adeiladu ar yr arferion da sy’n bodoli wrth symud ymlaen.â€