Enillodd dysgwyr cwrs lletygarwch ac arlwyo Coleg y Cymoedd lu o fedalau a gwobr ‘Gorau yn y Dosbarth’ mewn cystadleuaeth goginio genedlaethol.
Teithiodd grŵp o ddysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg y Cymoedd i Goleg Llandrillo, Gogledd Cymru i gystadlu ym ‘Mhencampwriaeth Goginio Rhyngwladol a chystadleuaeth Cacen Cymru’.
Yn y digwyddiad tridiau hwn lle roedd cogyddion o safon byd-eang y DU yn arddangos eu gwaith, enillwyd 25 o fedalau gan y dysgwyr Arlwyo a Lletygarwch Lefel 1, 2 a 3.
Roedd y naw dysgwr yn cystadlu mewn nifer o ddosbarthiadau arbenigol yn cynnwys rhai Pysgod Cregyn, Brechdan Bistro, ‘Cacennau Ultimate Cupcakes’, Pwdin Flambé a gwahanol gategorïau o sgiliau trafod cyllell.
Dyfarnwyd Alys Evans, 17 oed o Gilfach Goch, ‘Y Gorau yn y Dosbarth’; a dim ond i ddyrniad o gystadleuwyr y dyfernir y teitl nodedig hwn iddyn nhw ar hyd a lled y wlad.
Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Alys: “Dw i wrth fy modd mod i wedi ennill tair medal ac yn enwedig y wobr ‘Gorau yn y Dosbarth yn yr ornest Gwaith Cegin hon’. Mae’r coleg wedi bod yn gefnogol iawn ac rydw i’n hynod o ddiolchgar am y cyfle gwych hwn.â€
Roedd Ryan Desmier, 17 oed o Bontlotyn, hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Sgilau Cymru mewn Uwch Goginio. Gwnaeth yn ardderchog yn y gystadleuaeth 3 awr hon a chreu saig o bysgod, cyw iâr ac afal. Daeth yn ail, sy’n ei alluogi i gystadlu yng nghystadleuaeth sgiliau’r DU.
Yn dilyn y gystadleuaeth, dywedodd Ryan: “Roedd y gystadleuaeth yn brofiad da ac yn gyfle i mi ehangu fy sgiliau coginiol. Roedd y tiwtoriaid yn gefnogol iawn ac yn fy annog drwy’r sesiynau ymarfer a thrwy gydol y gystadleuaeth.â€
Ychwanegodd y tiwtor, Ian Presgrave: “Sefydlwyd tîm coginiol Coleg y Cymoedd yn gynharach yn y tymor academaidd hwn. Mae’r dysgwyr a ddewiswyd ar gyfer y tîm wedi rhoi oriau o’u hamser i ymarfer bob wythnos i baratoi ar gyfer Cystadleuaeth Goginiol Gogledd Cymru yn Ngholeg Llandrillo. Cynrychiolodd yr holl ddysgwyr y Coleg yn berffaith ac yn llwyddiannus iawn.â€
Isod, gwelir yr holl fedalau a enillwyd gan dîm coginiol Coleg y Cymedd:
Â
Ryan Desmier            Sgiliau Arian                         Cystadleuaeth Cymru – Uwch Goginio Proffesiynol
Â
Robert Haycox          Arian                                       Pwdin Flambé
Robert Haycox          Efydd                                    Prif Gwrs Flambé
Robert Haycox          Efydd                                    Plygu Napcyn
Alys Evans                 Aur & Gorau yn y Dosbarth   Cacennau ‘Ultimate Cupcakes’
Alys Evans                 Arian                                       Cacen Wahanol Agored
Alys Evans                 Efydd                                     Cacen Ddathlu Nofis
Kirsty Lees                 Dyfarniad Teilyngdod            Cacennau Ultimate Cupcakes
Kirsty Lees                 Dyfarniad Teilyngdod            Gwneud Gateau
Evan Davies              Arian                                       Brechdan Bistro
Evan Davies              Arian                                       Sgiliau Cyllell – Torri Ffrwyth
Evan Davies              Arian                                      Sgiliau Cyllell – Torri Llysiau
Evan Davies             Dyfarniad Teilyngdod            Pysgod Cregyn
Rhys Martin               Arian                                       Sgiliau Cyllell  – Torri Ffrwyth
Rhys Martin               Arian                                      Sgiliau Cyllell – Torri Llysiau
Rhys Martin               Dyfarniad Teilyngdod            Cig Oen Cymru
Rhys Hill                     Arian                                       Cig Eidion Cymru – Prif gwrs
Rhys Hill                     Arian                                      Sgiliau Cyllell  – Torri Ffrwyth
Rhys Hill                     Dyfarniad Teilyngdod            Sgiliau Cyllell  – Torri Llysiau
Liam Williams             Arian                                       Gosod Bwrdd ar Thema
Liam Williams             Efydd                                    Plygu Napcyn
Liam Williams             Efydd                                    Coctêls
Hollie Horsell              Dyfarniad Teilyngdod            Cacen Wahanol Agored