Dysgwyr y Cymoedd yn cefnogi gwaith mewn Gardd Goffa

Mae Coleg y Cymoedd yn falch o’i gysylltiadau â’r Lluoedd Arfog, gan mai dyma’r coleg AB cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Arian Cydnabod Cyflogwyr yn 2018. Gwobr a roddir i sefydliadau sy’n addo, dangos neu hyrwyddo cefnogaeth i amddiffyn cymuned y Lluoedd Arfog a chyfliniad eu gwerthoedd â Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Pan aeth Phill Adkins, o Gymdeithas Cymrodyr Brenhinol Cymru a Chydlynydd Prosiect yr Ardd Goffa at y coleg am gymorth i adeiladu Gardd Goffa, yng nghanol tref Aberdâr, roedd y coleg yn awyddus iawn i gymryd rhan.

Ymwelodd Phill Adkins, llefarydd ar ran y grŵp â’r coleg i drafod y prosiect a chytunwyd y byddai’r dysgwyr Adeiladwaith ar gampws y coleg yn Aberdâr yn cefnogi’r prosiect.

Ymwelodd y dysgwyr sy’n astudio ar y cwrs Bricwaith, ynghyd â’r tiwtoriaid John Wayman, Steve Jones a Steve Llewellyn â’r safle yn Aberdâr i gael briff ar y prosiect. Byddai’r prosiect, er ei fod yn cefnogi achos mor deilwng, hefyd yn darparu profiad ymarferol i’r dysgwyr ac yn gwella’r cyfleoedd DPP i’r tiwtoriaid.

Wrth siarad ar ran y tiwtoriaid ar gampws Aberdâr, dywedodd John Wayman, tiwtor Bricwaith “Gweithiodd y dysgwyr yn dda fel tîm ar y prosiect ac roedd ansawdd eu gwaith yn rhagorol. Mae’r staff yn falch o’r ffordd yr oeddent yn gweithio ac yn ymddwyn; maen nhw’n llysgenhadon gwych i Goleg y Cymoedd. Mae’r profiad hwn wedi rhoi’r cyfle iddynt gael profiad gwaith ymarferol ynghyd â gweithio ar brosiect sy’n cael effaith gadarnhaol yn y gymuned ”.

Gofynnwyd i’r dysgwyr osod y slabiau yn yr Ardd Goffa, a roddwyd yn garedig gan Jewsons, Aberdâr. Trwy gydol eu hamser ar y prosiect cawsant ymateb da gan bobl oedd yn mynd heibio gan gynnwys, cyn-filwyr o bob cyfnod a Chyn-filwr Gwarchodlu Cymru, Errold Jones, am y gwaith rhagorol a wnaed yn y prosiect.

Ar ôl cwblhau eu gwaith, aeth y saer maen ati i fewnosod y plac a’r cerrig coffa gwenithfaen er cof am anwyliaid neu gymrodyr. Er mwyn cwblhau’r ardal, profwyd y polion fflagiau, a roddwyd gan Alumining Lighting Company, er mwyn paratoi ar gyfer y seremoni agoriadol.

Dywedodd Phill Adkins “Aeth y gwaith o osod y slabiau yn dda, ac ar ran Cymdeithas Cymrodyr Brenhinol Cymru hoffwn ddiolch i’r coleg am eu cyfranogiad. Gweithiodd y dysgwyr yn galed ac mae eu gwaith gorffenedig yn rhagorol. Gobeithio eu bod wedi mwynhau’r prosiect ac yn falch o’r rhan y maent wedi’i chwarae wrth baratoi Gardd Goffa Gwasanaethau Milwrol Cyfun Cwm Cynon ”.

Cynhelir yr agoriad swyddogol ddydd Sul 3 Tachwedd am 10:30 a.m.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau