Dysgwyr y Cymoedd yn ennill lleoedd ar y prosiect anrhydeddus – Prosiect Bannau Gŵyl y Gelli

Mae dau o ddysgwyr ysgrifennu creadigol o Gymoedd De Cymru ar fin dysgu gan rai o lenorion proffesiynol gorau’r byd, gan gynnwys nofelwyr, newyddiadurwyr a darlledwyr arobryn, ar ôl sicrhau lle ar gwrs ysgrifennu unigryw yn yng Ngŵyl y Gelli.

Mae Lilianna Williams sy’n 17 oed, a Josephine Lee sy’n 17 oed, ill dau yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd, wedi curo cystadleuaeth gref o bob cwr o’r wlad er mwyn ennill lle ar Brosiect Bannau Gŵyl y Gelli eleni – gweithdy preswyl mawreddog a gynhelir yn ystod Gŵyl y Gelli ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed sydd â diddordeb mewn ysgrifennu.

Nod y cynllun yw annog creadigrwydd ymysg pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnig cyfle unigryw i ugain o fyfyrwyr o Gymru weithio gydag awduron a newyddiadurwyr eithriadol mewn amgylchedd hynod greadigol ac ysgogol yn ystod Gŵyl y Gelli i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu.

Byddant yn treulio pedwar diwrnod a thair noson yn mynychu digwyddiadau, yn cymryd rhan mewn gweithdai, yn ysgrifennu blogiau ac adolygiadau, yn cymryd rhan mewn dadleuon ac yn ymgolli ym mhopeth sydd gan Å´yl y Gelli i’w gynnig. Bydd mentor yn cefnogi pob un o’r dysgwyr drwy gydol eu harhosiad.

Mae’r dysgwraig o Bontypridd, Josephine, sydd ar hyn o bryd yn astudio cyrsiau UG yn y Saesneg, Seicoleg, Cymdeithaseg a Drama yng nghampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, yn un o’r dysgwyr o Gymru i gael eu dewis ar gyfer y prosiect. Dewiswyd yr awdures frwd o Rydyfelin i gymryd rhan yn y cynllun ar ôl creu argraff ar y beirniaid gyda sampl o’i hysgrifennu creadigol ei hun.

Dywedodd: “Fel rhan o’r cais ar gyfer y prosiect, cyflwynais ddarn o’m barddoniaeth ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn yn ennill lle gan fod y prosiect yn ymddangos yn ddethol iawn, gyda dim ond 20 o bobl ifanc o Gymru yn cael eu dewis, a chan fy mod, fel myfyrwraig o Loegr, yn cystadlu am le mewn maes hynod gystadleuol.

“Pan gefais wybod fy mod wedi cael fy newis, roeddwn yn gyffrous iawn gan fy mod yn caru ysgrifennu. Bydd y profiad yn rhoi cyfle imi archwilio pob elfen ar y Saesneg a datblygu fy niddordeb mewn iaith. Bydd yn anhygoel cwrdd ag awduron ysbrydoledig a chael eich amgylchynu gan ddarpar awduron eraill yn ystod yr Ŵyl. Ni allaf aros! Hefyd, gan fy mod yn gobeithio astudio’r Saesneg yn y brifysgol, bydd hefyd yn wych ychwanegu hyn at fy nghais UCAS i ddangos fy niddordeb brwd yn y pwnc.

”Yn cystadlu yn erbyn cannoedd o geisiadau o bob cwr o Gymru, sicrhaodd y dysgwyr lwcus eu lle ar y prosiect ar ôl creu argraff wrth gyflwyno eu gwaith ysgrifennu creadigol eu hunain ac ateb cwestiynau am eu diddordebau darllen ac ysgrifennu.

Mae cyn-gyfranogwyr Prosiect Bannau Gŵyl y Gelli wedi mynd ymlaen i yrfaoedd mewn ysgrifennu creadigol, cyhoeddi a’r cyfryngau, gan gynnwys y bardd a’r dramodydd arobryn, Owen Sheers.

Mae’r dysgwraig o’r Rhondda, Lilianna, sy’n ystyried gyrfa mewn newyddiaduraeth neu olygu, hefyd yn edrych ymlaen at y cwrs. Mae Lilianna, sydd ar hyn o bryd yn astudio’r Saesneg, Daearyddiaeth a Throseddeg yn UG, yn gobeithio y bydd y cynllun yn datblygu ac yn gwella ei sgiliau ysgrifennu.

Dywedodd Lillianna: “Fe wnaeth fy nhiwtor yn y coleg fy annog i wneud cais ar gyfer y prosiect a doeddwn i ddim yn gallu’r credu’r peth pan ddywedwyd wrthyf fy mod wedi cael lle gan fod cannoedd o bobl wedi gwneud cais. Rydw i’n angerddol am y Saesneg ac yn gwybod fy mod yn bendant eisiau gyrfa sy’n gysylltiedig â’r pwnc, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y gallai’r profiad hwn helpu fy ngyrfa.

“Bydd yn ddefnyddiol iawn cael gwybodaeth, barn ac awgrymiadau gan rai o’r awduron proffesiynol gorau. Rwy’n gobeithio y bydd y gweithdai yn fy helpu i fod yn fwy hyderus yn fy ngwaith ysgrifennu, yn ogystal â gwella fy sgiliau a dysgu imi sut i addasu fy ngwaith i wahanol genres.

“Mae llwyddiant Owen Sheers, a fynychodd y gweithdai yn y gorffennol, yn dangos y cyfleoedd y gall Prosiect y Bannau agor – ni allaf aros!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau