Mae myfyrwraig ifanc o Gymoedd De Cymru ar fin cychwyn taith o 6,000 o filltiroedd i Gambodia, lle bydd yn treulio‘i gwyliau haf yn helpu i ail-adeiladu’r wlad ar ôl 30 mlynedd o ryfel a distryw.
Bydd Dion Newton, 18 oed, o Gwm Clydach, yn teithio i Gambodia sydd erbyn hyn yn wlad heddychlon i ymroi i daclo canlyniad degawdau o wrthdaro ac ansefydlogrwydd gwleidyddol sy’n gyfrifol mai Cambodia ydy un o wledydd lleiaf datblygedig de-ddwyrain Asia.
Dion oedd yr unig fyfyriwr Coleg y Cymoedd i gael ei dewis gan y VSO, sefydliad datblygiad rhyngwladol annibynnol mwyaf blaengar y byd sy’n gweithio drwy ei wirfoddolwyr i ymladd tlodi yn y gwledydd sy’n datblygu. Mae tlodi cefn gwlad Cambodia yn dal i fod yn uchel gyda 35% o bobl yn byw ar lai na 60 ceiniog y dydd.
Fel gwirfoddolwr VSO, bydd Dion yn debygol o fod yn gweithio i fynd i’r afael â’r prinder bwyd sy’n deillio o’r cynnydd yn y boblogaeth, prinder pysgod oherwydd gor-bysgota a physgota anghyfreithlon a diffyg rheolaeth briodol a diffyg camau gorfodi.
Dywedodd Dion, wrth fyfyrio ar y gwaith sydd o’i blaen: “Mae gen i ddiddordeb erioed mewn gwirfoddoli , ond bydd teithio i Gambodia yn brofiad gwahanol iawn i wirfoddoli gweithio yn fy siop elusen leol.
“Yn y coleg y clywais am VSO gyntaf. Soniais y byddai gen i ddiddordeb mewn gwaith gwirfoddol dramor a ches help un o fy nhiwtoriaid i wneud ymchwil a gwneud cais i’r VSO. Wnes i erioed freuddwydio y byddwn yn cael cyfweliad. Roeddwn ychydig yn betrus wrth fynd i Lundain am y cyfweliad – dim ond fi oedd ddim mewn prifysgol oedd wedi gwneud cais. Dw i’n dal yn methu â chredu mod i’n mynd ond erbyn hyn mae’r petruster wedi troi’n gyffro!
“Dydw i ddim eto’n hollol sicr beth fydda i’n ei wneud yno. Mae Cambodia yn ymgodymu â chymaint o faterion megis iechyd, addysgu a gwleidyddiaeth ond dwi’n meddwl y byddai i’n gweithio i helpu i ddiogelu’r pysgodfeydd y wlad i gynorthwyo’r frwydr yn erbyn prinder bwyd.â€
Dywedodd Theresa Thomas, tiwtor Dion ar Gampws Rhondda Coleg y Cymoedd oedd wedi cyflwyno Dion i gynllun gwirfoddoli VSO: “Mae pawb yn y coleg yn hynod o gyffrous dros Dion ac rydyn ni wedi bod yn gweithio i’w chynorthwyo ym mhob ffordd gallwn ni. Ddes i wybod am ei diddordeb mewn gwirfoddoli dramor ar ôl i’r dosbarth wylio fideo ar dlodi yn yr India. Dw i’n ei chofio’n dweud ‘ond yn ni’n lwcus yn y wlad hon?’
“Mae Dion wir wedi ennill y cyfle ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi eu helpiu i godi peth o’r £800 roedd rhaid iddi hi godi i ariannu’r gwaith yn Cambodia. Mae pawb yn y Coleg yn dymuno’n dda i Dion ac yn edrych ymlaen at glywed yr hanes pan fydd yn dychwelyd ym mis Medi.â€
Fel gwirfoddolwraig, gofynnwyd i Dion godi £800 i helpu taug at ymdrechion cymorth y VSO. Mae Coleg y Cymoedd a ‘Max Club’ yng Nghwm Clydach wedi cynnal digwyddiadau i helpu Dion i godi’r arian. Mae Dion yn gobeithio y bydd trigolion a busnesau lleol yn dal ati i godi arian i’w hachos teilwng drwy gyfrannu drwy ei gwefan neu drwy decstio’u cyfraniadau.
I gefnogi gwaith gwirfoddol Dion i helpu cymunedau gwledig Cambodia ewch i’r wefan www.justgiving.com/dion-newton1 ,neu anfon y neges testun ‘GHSL71’ + y swm yr hoffech ei gyfrannu i ‘70070’.