Dysgwyr yn gosod pegiau i nodi’r dyfodol i addysg yng Nghymoedd De Cymru

Roedd digon o ddwylo eiddgar ar gael ar safle campws newydd sbon addysg bellach yn Aberdâr, wrth i ddysgwyr helpu i osod pegiau’n marcio gosodiad yr adnodd fydd yn gweddnewid hyfforddiant addysg a sgiliau ar gyfer cannoedd yn yr ardal.

Yn dilyn derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar ddiwedd y llynedd, mae’r gwaith adeiladu wedi cychwyn ar safle campws newydd £22 miliwn Coleg y Cymoedd yn Aberdâr. Daeth dysgwyr presennol o amrywiol gyrsiau Coleg y Cymoedd ynghyd i helpu’r cwmni adeiladu, Kier, i farcio amlinelliad o ble bydd yr adeilad newydd yn cael ei godi.

Cafodd y myfyrwyr, o gyrsiau megis gwaith plymwr ac adeiladu a busnes a chyfrifiadureg, ac i gyd yn astudio ar hyn o bryd ar gampws presennol Aberdâr, weld yn union ble bydd lleoliad eu cyrsiau nhw eu hunain yn yr adeilad newydd. Ar eu hymweliad cyntaf â’r safle, bu’r dysgwyr yn trafod gyda’u Pennaeth, Judith Evans, pa adnoddau fyddan nhw’n eu defnyddio flwyddyn i fis Medi, rhai wedi’u cynllunio’n benodol i gynnig iddyn nhw’r ansawdd gorau posibl o addysg i gwrdd ag anghenion eu dewis faes diwydiannol.

Dau o’r rhai fu’n gosod pegiau i nodi amlinelliad y campws newydd oedd Rhys Harding a Matthew Bullock, y ddau’n astudio ar gyfer eu diploma TG Lefel 3.

Dywedodd Rhys Harding, (20), o Aberpennar: “Roedden ni wedi gweld y cynlluniau o’r blaen, ond roedd yn grêt cael syniad o sut bydd y campws newydd yn edrych. Mae’n sicr yn mynd i gynnig llawer mwy i’r dysgwyr nag sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae bod yn agos i’r orsaf drenau’n mynd i’w gwneud hi’n haws i bobl gyrraedd yma.”

Cytunai cyfaill Rhys ar y cwrs, Matthew Bullock (20), hefyd o Aberpennar, bod y campws newydd eisoes yn ennyn diddordeb ymhlith darpar fyfyrwyr: “Mae’r campws yn siwr o ddenu pobl, mae ffrindiau i mi wedi dweud mai cael campws fan hyn yn y dre ydy un o’r rhesymau pam eu bod yn bwriadu dod i’r coleg y flwyddyn nesaf.”

Mae’r campws newydd wedi ei leoli yng nghanol Aberdâr a bydd yn disodli’r hen safle ar Heol Cwmdâr. Mae’r adnodd wedi ei gydariannu gan Lywodraeth Cymru a Choleg y Cymoedd.

Yn ôl Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd, oedd ar y safle yn ystod y gosod pegiau: “Roedd yr ymarfer yn hynod werthfawr i’n dysgwyr gan ei fod yn golygu eu bod nhw’n rhan o’r cyfan o gychwyn yr adeiladu ac y mae cael dysgwyr o wahanol gyrsiau ar y safle i weld union osodiad y campws newydd yn brawf o’n perthynas agos gyda chwmni Kier.

“Mae’n hynod gyffrous gweld y tîm adeiladu yn bwrw ymlaen â’r gwaith ar y campws, gan helpu ein cenhadaeth i droi rhagoriaeth mewn addysg a sgiliau yn realiti i’r holl ddysgwyr o fewn yr ardaloedd rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Bydd y ffaith bod y safle mor agos i orsaf drenau Aberdâr, i Ysgol Gymuned newydd Aberdâr ac i ganol y dre, yn golygu mynediad llawer rhwyddach i ddysgwyr a staff allu cyrraedd cludiant cyhoeddus a chysylltiadau cymudo o gyrion yr ardal.

Roedd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau cwmni Kier, hefyd ar y safle. Meddai: “Dyma ydy gwir garreg filltir gyntaf y prosiect ac rydyn ni’n falch iawn o gael croesawu’r staff a dysgwyr ar y safle. Rhyw ddydd, rhai o’r dysgwyr hyn fydd gweithlu’r diwydiant adeiladu, felly mae’n golygu llawer iawn eu bod wedi chwarae eu rhan yn yr achlysur hwn ac yn gyfrifol am osod y pegiau.” 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau