Mae dwy o Goleg y Cymoedd wedi derbyn cydnabyddiaeth byd llenyddiaeth gan ddosbarthwr llyfrau amlyca’r byd, Amazon, fydd yn stocio eu cyfrol sy’n trafod cymoedd De Cymru yn ystod streic y glowyr yn 1984/5.
Natalie Butts Thompson a Deborah Price, myfyrwyr ar gampws Aberdâr, ydy cyd-awduron llyfr newydd sy’n cofnodi gofidiau ac ysbryd cymunedol Rhondda Cynon Taf yng nghyfnod y streic.
Cafodd y gyfrol, ‘How Black were our Valleys’, ei lansio ar Gampws Coleg y Cymoedd yn Aberdâr lle mae’r awduron yn astudio am Radd Sylfaen mewn Saesneg a Hanes, cwrs gradd sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru.
Fe ddechreuwyd ar y llyfr tra roedd Natalie a Deborah ar leoliad gwaith gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Yn ystod y lleoliad gwaith, gofynnwyd i’r ddwy gasglu astudiaethau achos am rai fu’n rhan o streic 1984/5, lle bu cannoedd o lowyr Cymru a gweddill y DU yn streicio yn erbyn bwriad Margaret Thatcher i gau’r pyllau glo.
Ar ôl teithio ar hyd a lle Cymoedd De Cymru i gyfweld â chyn-lowyr a’u gwragedd, sylweddolodd yr awduron fod eu gwaith wedi cynhyrchu digon o ddeunydd i’w gynnwys mewn cyfrol.
Wrth drafod ei syniad personol am y gyfrol, meddai Natalie Butts Thompson: “Pan fu farw Margaret Thatcher, doedd fy merch ddim hyd yn oed yn gwybod pwy oedd hi. Roedd hi’n bwysig i gofnodi atgofion am yr frwydr hon, gan eu bod nhw’n rhan bwysig o hanes Cymru.â€
Tra’n sôn am y prosiect, meddai Deborah Price: “Fe glywson ni am brofiadau personol ac emosiynau sy’n parhau’n rhai tyner iawn hyd heddiw. Roedd yr holl brofiad yn gyffrous a phleserus.
“Roedd yna lawer o waith paratoi’r gyfrol i’w chyhoeddi, ond gan fod y pwnc mor ddiddorol, doedd e ddim yn ymddangos fel gwaith o gwbl.
Fel teyrned i’r cymunedau ddioddefodd oherwydd y streic, bydd y cyfan o elw’r gwerthiant ar Amazon.co.uk yn cael ei roi i Gronfa Buddiolwyr Glowyr De Cymru. Mae’r gronfa’n darparu help i gyn-lowyr a’u teuluoedd.
I brynu copi o ‘How black were our Valleys’ ewch ar y wefan: http://www.amazon.co.uk/How-Black-Were-Valleys-Commemoration/dp/1495399494
“