Mae cyn-ddysgwr uchelgeisiol a gychwynnodd ar gwrs sylfaen yng Ngholeg y Cymoedd erbyn hyn yn cwblhau gradd meistr mewn Seicoleg ac yn bwriadu cwblhau PhD.
Cychwynnodd Jolene Hughes, 24 oed o Bontypridd, ar ei thaith addysgol yng Ngholeg y Cymoedd ar gwrs arlwyo sylfaen a symud ymlaen i gwrs Therapi Harddwch Lefel 2. Yna, a hithau’n awchu am addysg, cwblhaodd gwrs Mynediad i’r Dyniaethau yn y coleg cyn symud ymlaen i brifysgol.
Er bod ei bryd ar astudio’r Gyfraith yn wreiddiol, drwy’r cwrs Mynediad i addysg uwch yn y Dyniaethau cafodd cymaint o flas ar Seicoleg nes iddi benderfynu astudio cwrs BSc Anrh mewn Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae Jolene, oedd yn betrus iawn am addysg pan ymunodd â Choleg y Cymoedd yn 16 oed, erbyn hyn yn ceisio cwblhau PhD yn y maes hwn ac yna ymgymryd ag hyfforddiant ychwanegol i fod yn Seicolegydd Iechyd cymwysedig.
Dywedodd Jolene: “Roedd fy nhiwtor, Gail, yn arbennig o gefnogol.Wrth weithio gyda hi yn y coleg ces yr hyder i symud ymlaen. Wnes i erioed freuddwydio y byddwn ryw ddiwrnod yn gwneud PhD ac yn Seicolegydd Iechyd!â€
Dywedodd Gail Pritchard, ei thiwtor: “Dw i mor falch o Jolene, mae ei holl waith caled a’i hymroddiad i’w hastudiaethau ynghyd â’r cymorth mae wedi’i dderbyn wedi mynd â hi o gwrs sylfaen i addysg ôl-radd. Dymunaf bob llwyddiant i Jolene yn y dyfodol a gobeithio bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i ddilyn a chyflawni eu nod drwy addysg.
“
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR