Gofalwr Ifanc yn trawsnewid ei bywyd diolch i ail gyfle gyda Choleg y Cymoedd

Mae gofalwr ifanc, a dreuliodd ei harddegau i mewn ac allan o addysg cyn cael ail gyfle diolch i gefnogaeth coleg yng Nghymru, yn edrych ymlaen at ddechrau o’r newydd ac yn annog pobl ifanc eraill sydd â dyletswyddau gofalu i estyn allan am y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Bu JayLee Maylin Coles, sy’n 19 oed ac yn dod o’r Coed Duon, yn gofalu am ei phedwar sibling iau a chafodd drafferth wrth gydbwyso ei hastudiaethau â’i rôl ofalu a’i bywyd fel person ifanc, gan arwain at berthynas gythryblus ag addysg.

Treuliodd fwyafrif ei harddegau yn symud o gwmpas gwahanol ysgolion a cholegau. Sylweddolodd JayLee fod angen i rywbeth newid os oedd am greu gyrfa lwyddiannus iddi hi ei hun yn y dyfodol.

Gyda breuddwyd o redeg ei busnesau ei hun a chan gredu y byddai prifysgol yn rhan annatod o’i thaith entrepreneuraidd, mae’r darpar entrepreneur wedi penderfynu troi pethau o gwmpas ar ôl cael cyfle arall i lwyddo drwy astudio yng Ngholeg y Cymoedd.

Ar ôl cofrestru ar gyfer cwrs Busnes y coleg ar ei gampws yn Ystrad Mynach ym mis Medi 2023, cafodd Jaylee ei rhoi mewn cysylltiad ar unwaith â Swyddog Lles ac Arweinydd Gofalwyr y coleg, Laura Wilson, a weithiodd yn uniongyrchol gyda JayLee i’w helpu i ddychwelyd i addysg.

Dros y chwe mis diwethaf, mae Laura wedi helpu JayLee i ddatblygu patrwm gweithio mwy hyblyg sy’n cefnogi ei haddysg a’i rôl yn gofalu am ei brodyr a’i chwiorydd – cymorth sydd wedi trawsnewid ymddygiad JayLee a’i hymagwedd at addysg.

Oherwydd ei hymrwymiad i’w hastudiaethau, mae JayLee wedi’i phenodi’n Llysgennad Dysgwyr ac yn eiriolwr lles ar gyfer Coleg y Cymoedd. Fel rhan o’r rôl mae hi wedi cynnal sgyrsiau ar gampws Nantgarw yn ogystal â mynychu nifer o ddiwrnodau agored a digwyddiadau i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill sy’n ystyried coleg ac sy’n wynebu rhwystrau tebyg i’r rhai y mae JayLee wedi’u goresgyn.

Wrth edrych ymlaen, mae JayLee bellach yn benderfynol o fynd i’r brifysgol i astudio busnes neu’r gyfraith. Cyflwynodd Laura hi i ‘Brosiect Ymestyn yn Ehangach’ y coleg, sef rhaglen gymorth ar-lein sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, a gynlluniwyd i helpu gofalwyr ifanc ac unigolion heb gynrychiolaeth ddigonol i atgyfnerthu eu ceisiadau UCAS a sicrhau lleoedd ym mhrifysgolion Cymru.

Dywedodd JayLee: “Rydw i wedi dod yn bell ac mae fy nghyflawniadau dros y saith mis diwethaf yn dangos beth all ddigwydd pan fydd gennych y rhwydweithiau cymorth cywir o’ch cwmpas. Rydw i’n hynod ddiolchgar i Goleg y Cymoedd a’r Tîm Lles sydd wedi estyn help llaw i mi ac wedi dangos trugaredd a dealltwriaeth  – pethau roeddwn i wir eu hangen. Rydw i nawr am drosglwyddo’r caredigrwydd hwnnw ymlaen a chefnogi pobl eraill.

“Wnes i ddim dewis bod yn ofalwr ifanc, ond roedd cymhlethdodau yn fy mywyd teuluol yn golygu bod pobl eraill dibynnu ar fy nghefnogaeth. Ceisiais fy ngorau i helpu i ofalu am fy mrodyr a chwiorydd, yn enwedig fy mrawd ieuengaf, drwy goginio bwyd, pacio cinio a sicrhau bod ei ddillad yn lân. Roedd gen i lawer o gyfrifoldeb i ddelio ag ef gartref a olygodd fy mod yn gwthio yn ôl mewn meysydd eraill yn fy mywyd, gan gynnwys addysg.

“Fyddwn i ddim lle ydw i pe na bawn i wedi gofyn am help. Dyna pam rydw i wedi ei gwneud yn genhadaeth i wneud yn siŵr bod gofalwyr eraill yn gwybod pa systemau cymorth sydd ar gael iddyn nhw, fel nad ydyn nhw’n gwneud yr un camgymeriadau ag y gwnes i.”

Ochr yn ochr â’i rôl fel Llysgennad Dysgwyr, mae JayLee wedi dod yn rhan annatod o Dîm Lles y coleg, gan fynd gyda staff i sgyrsiau a digwyddiadau ar gampysau eraill, gan gynnig cipolwg gwerthfawr o’r systemau llesiant, diogelwch a chymorth sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd. Hefyd, mae JayLee mewn trafodaethau i lansio podlediad myfyrwyr Coleg y Cymoedd y mae’n gobeithio ei ddefnyddio i wneud pynciau fel lles yn fwy hygyrch yn y gymuned.

Dywedodd Laura Wilson, Swyddog Lles ac Arweinydd Gofalwyr yng Ngholeg y Cymoedd: “Unwaith imi gyfarfod â JayLee, roeddwn yn gwybod ei bod yn berson hynod ddylanwadol ond yn cael ei chamddeall. Rydyn ni wedi gweld newid dramatig yn ymddygiad Jaylee ers iddi ddychwelyd i’r coleg, ac mae wedi bod yn bleser ei gwylio’n rhagori ar ei disgwyliadau ei hun a gweld ei natur gadarnhaol yn ymledu i’r dysgwyr y mae’n eu cefnogi. Mae stori JayLee yn destament i sut y gall y gefnogaeth gywir ysgogi llwyddiant unigolyn.”

Darllen mwy: https://www.cymoedd.ac.uk/cymorth-i-ddysgwyr-2/lles-a-lles/?lang=cy

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau