Gweinidog yn llongyfarch graddedigion diweddaraf prentisiaeth BAMC

Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi llongyfarch graddedigion prentisiaeth diweddaraf cwmni British Airways Maintenance Cardiff (BAMC) am lwyddo i gwblhau eu cyrsiau.

Mae gan gwmni BAMC hanes anrhydeddus o hyfforddi eu prentisiaid eu hunain yn eu gweithfeydd ar faes awyr Caerdydd. Maen nhw’n derbyn dros 350 cais, ac yn derbyn 15 myfyriwr bob yn ail flwyddyn. Gan gydweithio â dau goleg addysg bellach yn y De Ddwyrain, Coleg y Cymoedd a Choleg Caerdydd a’r Fro, mae ganddyn nhw Ddosbarth BAMC. Eu nod ydy canfod gwaith i bob prentis sy’n cwblhau’r tair blynedd o raglen.

Mae’r rhaglen brentisiaeth y maen nhw’n cynnal seremoni graddio ar ei chyfer yn cael ei rhedeg mewn cydweithrediad â Choleg y Cymoedd. Caiff Rhaglen arall, un y Brentisiaeth Uwch, ei rhedeg mewn cydweithrediad â Choleg Caerdydd a’r Fro. Mae’r prentisiaethau ym maes Gweithgynhyrchu Peirianyddol (Awyrofod). Yn y flwyddyn gyntaf maen nhw’n gwneud rhaglen sylfaen sydd yn seiliedig yn gyfan gwbl o fewn y dosbarth. Yn yr ail flwyddyn maen nhw’n astudio Lefel 2 NVQ a hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Cymru ac yna, ym mlwyddyn 3, maen nhw’n astudio Lefel 3 NVQ.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae dull cynhwysfawr BAMC o fynd ati i hyfforddi yn cynhyrchu gweithlu o safon uchel i wynebu heriau yn eu darpar swyddi. Rwy’n llongyfarch graddedigion llwyddiannus eleni ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol. Rwyf hefyd yn falch o weld dwy ferch ymhlith eu graddedigion eleni. Hoffwn i weld rhagor o fenywod yn ymddiddori – ac yn cael eu cymell – i ddilyn gyrfaoedd gwerth chweil mewn peirianneg. Mae Porth Sgiliau Cymru yn adrodd fod 80% o gyflogwyr yn cytuno bod prentisiaid yn gwneud eu gweithle’n fwy cynhyrchiol. Dyma pam i ni ymrwymo i ddarparu o leiaf 100,000 prentis o bob oedran dros y pum mlynedd nesaf, gan ddarparu gweithlu amrywiol, galluog a pharod ar gyfer Cymru.

Ar hyn o bryd, caiff y rhaglen Prentisiaethau gefnogaeth o £83 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflenwi ein rhaglenni wedi eu hariannu gan yr UE, gan greu o leiaf 100,000 cyfle ar gyfer prentisiaethau pob oedran er mwyn cefnogi unigolion a helpu cyflogwyr i ehangu eu busnesau.

Yn ôl Matthew Hancox, Pennaeth Unedau Busnes Peirianneg a Chynnal a Chadw Trwm cwmni British Airways: “Rydyn yn falch iawn o’n prentisiaid ac yn awyddus i ddathlu eu llwyddiant. Rydyn ni’n ymdrechu i gynnig i bawb o’n pobl, gan gynnwys ein prentisiaid, y cyfleoedd hyfforddi gorau posibl ac yn credu bod ein cynllun prentisiaeth all gystadlu ag unrhyw gynllun yng Nghymru. Mae gennym dîm ardderchog yn BAMC, ac mae ganddyn nhw ddull ffantastig o fynd ati i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalentau.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau