Gwireddu breuddwyd dau o gwrs Cyfryngau Coleg y Cymoedd

Mae dau ddysgwr o Goleg y Cymoedd sy’n astudio cwrs Diploma mewn Cynhyrchu Creadigol yn y Cyfryngau (Teledu a Ffilm) wedi cael cyfle i wireddu breuddwyd oes ym myd ffilm a theledu.

Roedd Dominic Farquhar, deunaw oed o Lanilltud Faerdre, yn gwybod er yn blentyn mai tu ôl i gamera yr hoffai fod a dyna fyddai ei swydd ddelfrydol ac mae’r profiad mae e wedi’i ennill ar y cwrs ar gampws Nantgarw wedi rhoi cychwyn da iddo.

Mae Dominic, sy’n cwblhau’r cwrs dwy flynedd yr haf hwn, eisoes wedi gweithio ar raglenni i’r BBC a S4C, rhai fel Only Connect & Pobl Y Cwm; mae e hefyd wedi ennill cydnabyddiaeth hefyd am gynhyrchu darn o’r rhaglen deledu High Hopes.

Dywedodd, “Mae’r cwrs wedi agor fy llygaid i’r cyfleoedd ym maes teledu a ffilm. Mae fy nhiwtor wedi fy annog ac wedi fy ymestyn i gyflawni fy mhotensial llawn, drwy gydol fy amser ar y cwrs dw i wedi ennill hyder a byddwn i’n bendant yn argymell y cwrs – mae’r coleg yn sicr yn dod â’r gorau allan o bobl”.

Yn y cyfamser mae Harri Jones, deunaw oed o Bentre’r Eglwys, dysgwr ar yr un cwrs wedi sicrhau cyflogaeth ei freuddwydion. Mae wedi cael ei gyflogi fel rhedwr ar y ffilm newydd ‘The Mummy’ gan weithio ymhlith enwogion fel Tom Cruise a Russell Crowe.

Dywedodd Harri, gan ategu’r hyn ddwedodd ei gyfaill ar y cwrs: “Dw i wedi bod mor ffodus i weithio ar ffilm mor fawr â hon; mae wedi bod yn anrhydedd i weithio ochr yn ochr gyda Russell Crowe a Tom Cruise. Dw i’n credu bod y cwrs wedi rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r agwedd i mi lwyddo yn y diwydiant ffilm. Mae’r adnoddau a’r cyfarpar o safon proffesiynol ac mae’r cymorth y mae’r tiwtor yn ei roi yn anhygoel”.

Dywedodd Amanda Stafford, tiwtor y cwrs: “Dw i mor hapus dros Harri a Dominic, mae’r ddau wedi gweithio’n galed iawn ac mae eu brwdfrydedd a’u penderfyniad i lwyddo wedi talu ar ei ganfed. Mae gweithio ym myd ffilm a theledu yn gyffrous iawn ond yn llwybr gyrfa heriol ac mae gan y ddau y talent a’r uchelgais i lwyddo. Mae gennym adnoddau rhagorol yn y coleg ac mae’r cwrs yn darparu’r sgiliau ond yn y pen draw mae llwyddiant yn dibynnu ar waith caled ac ymrwymiad y dysgwr. Dw i’n edrych ymlaen at weld eu henwau yn y rhestr credydau!” 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau