Gwledd o fedalau i’n Dysgwyr yn y Pencampwriaethau Coginiol

Teithiodd grŵp o ddysgwyr Coleg y Cymoedd Lletygarwch ac Arlwyo i Goleg Llandrillo yng Ngogledd Cymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol a Chystadlaethau Teisennau Cymru eleni.

Bu’r 8 dysgwr yn cystadlu mewn 23 dosbarth yn cynnwys Sgiliau Defnyddio Cyllell, Plygu Napcynau a gosod bwrdd, pryd pasta, flambé, Teisennau, brechdan Bistro a Chig Eidion Cymru ac fe enillon nhw 16 medal..

Cymerodd Emily Pooley, dysgwr ar gwrs Coginio Proffesiynol Lefel 3 ran yng nghystadleuaeth Cig Eidion Cymru gan ennill y fedal Aur. Dywedodd Emily “Roedd hi’n bleser cynrychioli’r coleg yn y gystadleuaeth genedlaethol hon. Hoffwn ddiolch i’r tiwtoriaid a roddodd o’u hamser i fy hyfforddi. Roedd dipyn o bwysau arnon ni yn y gystadleuaeth ond dwi’n teimlo ein bod wedi ymdopi’n dda oherwydd ein gwaith caled ymlaen llaw. Byddwn yn argymell eraill i gystadlu oherwydd bydd o fantais iddyn nhw yn eu darpar yrfa

Enillodd Rhys Martin, Evan Davies a Ieuan Hall fedalau Arian am eu sgiliau trafod Cyllyll a Bethan Stephens, Paige Ellis, Amber Verona a Koebe Hydes yn ennill medalau efydd a thystysgrifau teilyngdod.

Creodd talent y dysgwyr gymaint o argraff ar Nisbets, un o gyflenwyr cyfarpar coginio mwyaf y DU, maen nhw wedi cytuno i’w noddi; darparu siacedi meddal ar eu cyfer. Bydd bathodynnau ar y siacedi gyda logo’r coleg ynghyd â logo Nisbets a chyllyll Dyke, yn sicrhau bod y dysgwyr yn weledol mewn digwyddiadau a chystadlaethau yn y dyfodol. Bydd Nisbets hefyd yn brodio logo’r coleg ar holl git y dysgwyr a’r siacedi cogydd y mae Coleg y Cymoedd wedi’u prynu

Dywedodd Paula Marsh, Y Pennaeth Arlwyo: “Roedd y dysgwyr yn gredyd i’w hunain ac yn glod i’r coleg. Mae eu gwaith caled a gwaith caled y tîm Arlwyo, yn enwedig Ian Presgrave, wedi talu ar ei ganfed.”

Ar Ebrill 16, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau