Gwobr Efydd i Blymiwr o’r Cymoedd

Mae dysgwr o Goleg y Cymoedd wedi ennill Gwobr Efydd yn sector Adeiladu Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2018/2019. Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig y cyfle i ddysgwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Mae Jamie Richards, 20 oed o Aberdâr ar hyn o bryd yn astudio ar gwrs Diploma Lefel 2 City & Guilds 6035 mewn Plymio ar gampws Aberdâr a’i nod yn bendant yw symud ymlaen i brentisiaeth Plymio. Aseswyd y cystadleuwyr ar feini prawf heriol a oedd yn cynnwys gweithio’n ddiogel, dehongli lluniadau a manylion pibellau, mesur, gosod a gofynion gosod, marcio a thorri pibellau copr, ansawdd plygu ac asio, plymio a lefelu, profi pibellau ar gyfer cadernid a .efnyddio deunyddiau’n effeithiol.

Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Jamie “Rwy’n falch iawn o ennill y wobr hon, rydw i’n mwynhau’r cwrs a’m hamser yng Ngholeg y Cymoedd. Rwyf am ddweud diolch i Steve, Mal a Bryan am eu cefnogaeth a’u hanogaeth barhaus. Rwy’n gorffen fy Lefel 2 ym mis Mehefin a gobeithio y byddaf yn gallu cael Prentisiaeth a chyflawni fy NVQ.

Dywedodd Steve Robbins, tiwtor Jamie a Chydlynydd Campws Aberdâr ar gyfer Adeiladu, “Dyma gyflawniad gwych i Jamie, mae’r gwaith caled a’r safonau uchel y mae’n eu dangos yn y gweithdy wedi cael eu cydnabod yn y gystadleuaeth hon. Mae’r gystadleuaeth Sgiliau yn bwysig i bob dysgwr ac yn rhoi rhywbeth iddynt anelu ato. Bydd ennill y wobr hon a gallu rhoi hyn ar ei CV yn caniatáu iddo sefyll allan wrth fynd i gyfweliadau am waith. Bydd y gydnabyddiaeth hon yn magu ei hyder ac yn caniatáu iddo gredu yn ei allu ei hun “.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau