Gwobrwyo coleg am gefnogaeth ysbrydoledig i ofalwyr ifanc

Disgwylir i goleg yng nghymoedd de Cymru dderbyn gwobr genedlaethol am ei waith gyda gofalwyr ifanc.

Mae Coleg y Cymoedd, sydd â champysau yn Ystrad Mynach, Aberdâr, y Rhondda a Nantgarw, wedi ennill gwobrau efydd ac arian Coleg Gofalwyr Ifanc i gydnabod y gwaith y mae’n ei wneud i gefnogi ei ddysgwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Cynlluniwyd y wobr gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Rhondda Cynon Taf, a bydd yn cael ei chyflwyno gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Phlant, y Cynghorydd Tina Leyshon, mewn seremoni ddathlu a gynhelir ar gampws Aberdâr y coleg ddydd Mercher 29 Ionawr, cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc.

 

Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf yn 2011, mae dros 2,500 o ofalwyr ifanc yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd. Mae’r bobl ifanc hyn yn helpu i ofalu am berthynas, ffrind neu gymydog na fyddent fel arall yn gallu rheoli ar eu pen eu hunain oherwydd salwch, oedran neu anabledd.

Mae gofalwyr ifanc yn cael eu hunain yn jyglo rôl ofalu gyda gwaith ysgol neu goleg ac yn aml maent yn rhoi’r gorau i addysg a hyfforddiant o ganlyniad, gan deimlo na allant ymdopi â phwysau ychwanegol astudio. Amcangyfrifir fod gofalwyr ifanc bum gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i addysg na dysgwyr eraill.

 

Mae gwobr Coleg Gofalwyr Ifanc yn cydnabod mentrau a weithredir gan golegau i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn hapus ac yn gyffyrddus yn y coleg, gan eu helpu i lwyddo er gwaethaf eu cyfrifoldebau ychwanegol. Er mwyn helpu gofalwyr ifanc gyda’u haddysg, mae Coleg y Cymoedd yn cynnig oriau dysgu hyblyg, prydau bwyd am ddim a chefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr drwy gydol eu taith coleg. Mae gan y dysgwyr, sy’n aml yn brif ofalwr i unigolion sy’n dioddef o salwch difrifol, hefyd fynediad at gwnsela a thaith breswyl flynyddol i roi seibiant iddynt o’u cyfrifoldebau gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Phlant: “Rwy’n hynod falch bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gallu cydnabod y gwaith y mae Coleg y Cymoedd wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf i wella’r modd yr adwaenir a chydnabyddir Gofalwyr Ifanc a Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc a’r cymorth sydd ar gael iddynt.

 

“Mae Gofalwyr Ifanc yn Rhondda Cynon Taf yn aml yn darparu gofal hanfodol i’r rhai maen nhw’n eu caru fwyaf, sy’n cymryd cryn dipyn o ymroddiad ac ymrwymiad. Fodd bynnag, gall hyn hefyd effeithio arnynt yn gymdeithasol, yn academaidd ac yn emosiynol. Mae’n hanfodol bod sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i gydnabod Gofalwyr Ifanc ar y cyfle cyntaf er mwyn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i barhau â’u hastudiaethau, lleihau arwahanrwydd, a chynnig cyfle i gael seibiant.

“Hoffwn ddiolch i bawb yng Ngholeg y Cymoedd am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i ennill y Gwobrau Efydd ac Arian eleni, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n parhau â’u gwaith caled i gyflawni’r wobr Aur yn y dyfodol.”

Bydd staff, dysgwyr a rhieni Coleg y Cymoedd yn bresennol yn y seremoni wobrwyo, yn ogystal â Gweithwyr Cefnogi Gofalwyr y cyngor, Rebecca Knight a Mari Ropstad.

Yn ystod y seremoni, bydd mynychwyr yn clywed gan ofalwyr ifanc o bedwar campws y coleg a fydd yn rhannu eu straeon am sut mae’r coleg wedi eu helpu. Byddant hefyd yn derbyn y tlws, a ddyluniwyd gan ofalwr arall sy’n oedolyn ifanc, ar ran y coleg.

Dywedodd Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’n bwysig i ni fod ein holl ddysgwyr yn teimlo’n hapus ac yn cael cefnogaeth tra eu bod yn y coleg i sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd eu llawn botensial. Mae gofalwyr ifanc yn ysgwyddo llawer iawn o gyfrifoldeb gartref, felly rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu gwneud eu profiad yn y coleg yn un mor llyfn â phosibl.

“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod gennym strwythurau cymorth ar waith gan gynnwys helpu ein staff i ddeall yr arwyddion y gallai dysgwr fod yn ofalwr ifanc, a chyfeirio dysgwyr at gymorth priodol. Rydym yn hynod falch ein bod yn derbyn y wobr hon ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gynyddu ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc a’u cefnogi drwy gydol eu hamser gyda ni.”

 

Ar ôl ennill y gwobrau Efydd ac Arian, mae Coleg y Cymoedd bellach ar y trywydd iawn i dderbyn y Wobr Aur yn ddiweddarach eleni ac, os byddwn yn llwyddiannus, dyma’r unig goleg yng Nghymru i ennill tair lefel y wobr.

Er mwyn parhau i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc, mae’r coleg yn cymryd rhan yn y prosiect peilot ‘Driving Change’ – menter tair blynedd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a fydd yn darparu cefnogaeth i golegau’r DU i’w helpu i wella eu cefnogaeth i ofalwyr sy’n oedolion ifanc. Ar ôl ei gwblhau, bydd y coleg yn ennill cymhwyster y bydd ond 12 coleg addysg bellach yng Nghymru a Lloegr yn meddu arno.

 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau