Hefin David AS yn cwrdd â dysgwyr o Goleg y Cymoedd sy’n elwa ar y ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog newydd

Yn ystod ymweliad â champws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd, cafodd yr Aelod o’r Senedd lleol dros etholaeth Caerffili, Hefin David, gyfle i gwrdd â dysgwyr sy’n elwa o’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog newydd o fewn y coleg addysg bellach wedi ei gefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gyda chyfanswm o dros £160,000 wedi ei fuddsoddi yn Coleg y Cymoedd gan y Coleg Cymraeg dros y bedair blynedd diwethaf mae darpariaeth Gymraeg a dwyieithog bellach ar gael i ddysgwyr beth bynnag eu sgiliau Cymraeg mewn nifer o feysydd megis Chwaraeon, Iechyd a Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn ystod yr ymweliad roedd cyfle i’r Aelod o’r Senedd lleol gwrdd â dysgwyr sy’n dilyn cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus.

Meddai Carys Roach, un o’r dysgwyr yn y coleg addysg bellach ac un o Lysgenhadon y Coleg Cymraeg: “Mae bod yn ddwyieithog yn rhywbeth arbennig. Mae siarad ag eraill sy’n siarad Cymraeg yn anhygoel. Mae gallu parhau i ddefnyddio fy sgiliau siarad Cymraeg yn y coleg yn rhywbeth pwysig i mi. Mae mor hyfryd cwrdd ag eraill sy’n gallu siarad Cymraeg ac ysbrydoli eraill i ddysgu. Fy hoff brofiad yn y coleg yw dod yn Lysgennad y Coleg Cymraeg a gallu rhannu fy nghariad at y Gymraeg i bobl o’r un feddylfryd.”

Wrth gwrdd â’r dysgwyr meddai Hefin David AS: “Mae’n wych i weld cyllid Llywodraeth Cymru I’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael effaith go iawn ac ymarferol ar lawr gwlad. Mae’r ddarpariaeth Gymraeg yng Ngholeg y Cymoedd wedi gwella yn sylweddol o ganlyniad i waith ac ymrwymiad y tîm. Roedd y myfyrwyr wnes i siarad â hwy yn frwdfrydig iawn am y ddarpariaeth a roeddwn wrth fy mdd yn clywed eu bod yn lysgenhadon dros yr iaith Gymraeg ar y campws.”

Mae cefnogaeth Pennaeth Coleg y Cymoedd, Jonathan Morgan, a’i Uwch Dîm wedi bod yn allweddol i lwyddiant y bartneriaeth rhwng y coleg addysg bellach a’r Coleg Cymraeg ac yn ôl Jonathan Morgan:  “Rydw i wrth fy modd yn croesawu Hefin David AS i’r coleg, ynghyd â’n partneriaid o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ryn ni yng Ngholeg y Cymoedd wedi ein hymrwymo i hyrwyddo a hwyluso’r iaith Gymraeg ac yn parhau i weld cyfleoedd newydd i sicrhau bod yr iaith yn tyfu a ffynni ar draws pob campws.”

Yn bresennol hefyd roedd Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Aled Eirug. Wrth siarad am bwysigrwydd gwaith y Coleg yn y maes addysg bellach a phrentisiaethau meddai: “Mae’r Llywodraeth wedi adnabod twf mewn sgiliau dwyieithog ar draws y sector gyhoeddus fel blaenoriaeth, yn enwedig yn y meysydd iechyd a gofal ac addysg, ac mae disgwyliadau Safonau’r Iaith Gymraeg ar draws yr economi yn golygu bod y galw am weithlu dwyieithog ar gynnydd. Roedd hi’n hynod o braf heddiw i gwrdd â dysgwyr sy’n elwa’n uniongyrchol o fuddsoddiad ac ymrwymiad y Coleg Cymraeg a Choleg y Cymoedd ac yn cyfrannu at y nod hynny o greu gweithlu dwyieithog y dyfodol.”

Gweledigaeth y Coleg Cymraeg ar gyfer y sector addysg bellach yw sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb. Er mwyn gwireddu hyn mae’r Coleg yn gweithio gyda cholegau addysg bellach ar draws Cymru i ddefnyddio model datblygu sgiliau i gynyddu lefel ymwybyddiaeth, dealltwriaeth, hyder a rhuglder a chynyddu sgiliau pob dysgwr.

Mae hyn yn cynnwys:

  • cynyddu lefel y gefnogaeth sydd i ddysgwyr er mwyn defnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg;
  • sicrhau capasiti staffio digonol ar ystod o lefelau ieithyddol i gefnogi’r dysgwyr;
  • datblygu darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg mewn colegau ar draws y wlad
  • sicrhau adnoddau a chymwysterau digonol i gefnogi’r dysgu hyn yn y Gymraeg.
  • Mae rôl allweddol i gyflogwyr hefyd wrth gydnabod a chreu’r galw am sgiliau Cymraeg yn y gweithleoedd.

I ddarganfod rhagor am waith y Coleg yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau ewch i: Addysg Bellach a Phrentisiaethau (colegcymraeg.ac.uk).

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau