Mae dau o brif ddarparwyr hyfforddiant De Cymru wedi uno i lansio rhaglen hyfforddiant i’r rheiny sydd am gael gyrfa yn y maes Adnoddau Dynol.
Mae Coleg y Cymoedd a’r darparwyr Acorn, sydd wedi’u lleoli yng Nghasnewydd ac wedi ennill gwobrau, wedi datblygu rhaglen ar gyfer darparu Prentisiaeth Lefel 5 CIPD – diploma mewn Rheoli Adnoddau Dynol.
Bydd y brentisiaeth, a grëwyd ar gyfer gweithwyr AD proffesiynol mewn nifer o swyddi, gan gynnwys rheolwyr cynorthwyol, ymgynghorwyr a swyddogion, yn cael ei darparu drwy gyfuniad o ddysgu seiliedig ar waith a thiwtora y tu allan i’r gwaith.
Fel un o asiantaethau recriwtio a hyfforddiant blaenaf y DU, ac un o bartneriaid gwreiddiol Rhwydwaith AD Cymru, mae gan Acorn wybodaeth fanwl am ofynion gweithwyr AD ac maent wedi canfod bwlch yn y farchnad yn y maes personél.Â
Bydd y cymhwyster newydd yn cynnwys nifer o unedau a fydd yn canolbwyntio ar gyfraith cyflogaeth a’r rôl sydd gan AD i’w chwarae mewn cyd-destun busnes.
Dywedodd Sarah John, cyfarwyddwr masnachol Acorn a chadeirydd newydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru: “Gwir fantais y rhaglen hon yw ei fod yn caniatáu i arbenigwyr AD ennill cymhwyster proffesiynol gwerthfawr a gydnabyddir gan y diwydiant, ynghyd â chyfuno elfennau cymhwysedd a gwybodaeth.
“Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Choleg y Cymoedd er mwyn sicrhau bod modd darparu’r rhaglen hon gyda phwyslais sy’n canolbwyntio ar waith er mwyn sicrhau manteision llawn i’r prentis a’i gwmni, gan roi gwerth ychwanegol.â€
Ychwanegodd Matthew Tucker, cyfarwyddwr gwasanaethau busnes Coleg y Cymoedd: “Dyma gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a all wella’n sylweddol dyfodol unigolion o ran sicrhau gyrfa a dyrchafiad yn y maes AD.
“Mae Adnoddau Dynol yn swyddogaeth hollbwysig mewn unrhyw sefydliad, mae’n bwysig iawn cael gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi’n dda a bydd y cwrs hwn yn helpu datblygu’r potensial ar gyfer cael ragor o aelodau i’r tîm, gan sicrhau bod gan adrannau’r cryfder angenrheidiol o ran dyfnder a niferoedd.â€