Mae dysgwr Coleg y Cymoedd, Joshua Beere, sy’n 19 oed ac yn dod o Gwmparc wedi bod â diddordeb mawr erioed mewn TG a thrwy gydol ei ddyddiau ysgol cynyddodd ei wybodaeth a’i fwynhad wrth ddefnyddio cyfrifiaduron.
Ar ôl gadael yr ysgol ymunodd Joshua â’r rhaglen Care2Work a roes iddo’r gefnogaeth a’r anogaeth i adnabod ystod o gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth. Mwynhaodd y rhaglen amrywiol yn fawr a chymryd rhan yn agweddau cymdeithasol y grŵp.
Cwblhaodd sawl cwrs byr ac fe’i syfrdanwyd pan enillodd wobr Dysgwr Rhithwir y Flwyddyn yn nigwyddiad Dathlu Tîm Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant Rhondda Cynon Taf yn 2020.
Gyda’i gymwysterau, ei CV parod a’i hyder newydd, gosododd Joshua ei olygon ar yrfa yn y sector Busnes a TG a chymryd y cam cyntaf – ceisio am le yng Ngholeg y Cymoedd. Llwyddodd i sicrhau lle ar y cwrs Lefel 2 mewn Rhaglenni TG ar gyfer Busnes a dechreuodd ar gampws y Rhondda ym mis Medi 2020.
Er gwaethaf y cyfnod heriol yn astudio gartref, oherwydd pandemig Covid, dywedodd Joshua â€Ar ôl cwblhau’r rhaglen Care2Work roeddwn yn teimlo’n fwy hyderus wrth wneud cais i’m coleg lleol ac rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Pan ymwelais â’r coleg gwnaeth y staff imi deimlo bod cymaint o groeso imi, gan egluro beth fyddai’r cwrs yn ei olygu. Maent wedi bod mor gefnogol. Er ein bod ni’n astudio gartref ar hyn o bryd rwy’n mwynhau’r cwrs ac rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r campws, pan fydd y pandemig yn caniatáu. Byddwn yn argymell y coleg yn fawr gan fod cymaint o gyrsiau i ddewis ohonynt ac mae’r tiwtoriaid yn hyfryd â€.
Ychwanegodd Rhian Morris, Tiwtor Cwrs “Mae Joshua wedi ymgartrefu’n hawdd i fywyd coleg ac wedi gwneud ffrindiau newydd yn ei swigen ystafell ddosbarth. Pan fydd y pandemig drosodd a chyfyngiadau’n cael eu codi, rwy’n siŵr y bydd Joshua yn mwynhau cymryd rhan yn yr holl weithgareddau a digwyddiadau sydd fel arfer ar gael i ddysgwyr â€.