Llwyddiant dysgwyr cyrsiau galwedigaethol

Mae dwy fyfyrwraig o Gymoedd De Cymru wedi teithio ar draws y byd i gynrychioli Cymru a’r DU fel rhan o raglen gyfnewid myfyrwyr gyda Tsieina.

Laura Averiss ac Atlanta Taylor, dysgwraig a chyn ddysgwraig o Goleg y Cymoedd oedd yr unig gynrychiolwyr o’r DU i deithio i Asia fel rhan o ddirprwyaeth o gant o fyfyrwyr yn cynrychioli hanner cant o wledydd.

Ymwelodd y ddwy â 10fed Gwersyll Blynyddol Cyfeillgarwch Rhyngweithiol Ieuenctid Rhyngwladol Shanghai. Nod y cynllun ydy rhoi cyfle i bobl ifanc yn eu harddegau o bob ran o’r byd astudio diwylliant Tsieina yn ogystal â chyflwyno’u diwylliant arbennig nhw i bobl Tsieina.

Treuliodd Atlanta a Laura 10 diwrnod yn ninas fwyaf Tsieina fel darpar lysgenhadon i Gymru a’r DU. Yn ystod eu harhosiad dysgon nhw am wahanol draddodiadau a disgyblaethau Tsieina, yn cynnwys canu, y celfyddydau milwrol a chaligraffi.

Treulion nhw hefyd nifer o nosweithiau gyda theuluoedd lleol a chael eu hystyried yn ’chwiorydd Tsieineaidd’ er mwyn gloywi eu Mandarin a mwynhau profiad o wir drochi yn niwylliant y wlad.

Erbyn hyn, mae Laura, 18, o Danescourt, Caerdydd wedi dychwelyd ar gyfer ei blwyddyn olaf yng Ngholeg y Cymoedd. Eglurodd sut wnaeth y daith ei hysgogi i barhau i deithio “Ron i wedi mwynhau dysgu am y gwahanol ddiwyllianau cymaint nes i mi drefnu taith o dair wythnos i’r India yn Ebrill 2015 i weithio gyda phlant difreintiedig yn syth ar ôl dod adre o Tsieina. Dw i’n dal i fod mewn cysylltiad â rhai o’r bobl cwrddes i ar y daith, o Seland Newydd, Denmarc, ac Awstralia ac wedi cael gwahoddiad i aros gyda nhw rywbryd.

“Arhosais gydag un teulu oedd yn byw yn y wlad, felly ces gipolwg ar wahanol ardaloedd yn Tsieina ac ymweld â rhai o’r temlau a hyn oedd uchafbwynt y daith i mi.”

Fel cynrychiolwyr o’r DU, cafodd y dysgwyr gyfle i rannu eu diwylliant Cymreig eu hun, gan gynnwys pice ar y maen, llwyau caru a chanu ‘Calon Lân’ gyda’r cenhedloedd eraill mewn ‘marchnad’, digwyddiad a luniwyd fel modd i’r myfyrwyr ddysgu am y gwahanol ddiwylliannau oedd yn bresennol.

Dywedodd Atlanta, o Lanilltud Faerdre, sydd hefyd yn 18 oed ac ar fin cychwyn ar ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Newcastle i astudio Rheolaeth Gorfforaethol: “ Ni oedd yr unig rai o’r DU oedd yn rhan o’r profiad, felly roedd llawer o bwysau arnon ni i gynrychioli pawb, ond cwrddon ni â phobl wych o nifer o wahanol wledydd a dysgu cymaint.

“Yr hyn hoffes i fwyaf oedd cyfeiriadu o gwmpas y ddinas a’i gweld wedi’i goleuo yn y nos o lannau y Bund.”

Mae’r ddwy hefyd yn awyddus i ddiolch i’w tiwtoriaid yn y coleg sydd “wedi helpu i ddatblygu’n hyder a hwyluso teithiau fel hyn.” Fel rhan o baratoi’r merched ar gyfer yr ymweliad, trefnodd y coleg i’r merched gwrdd â Lucy Bainbridge, myfyrwraig o Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd, rhan o Brifysgol Llundain. Cyflwynodd y diwylliant Tsieineaidd a dysgu Mandarin sylfaenol iddyn nhw.

Roedd Ian Rees, Rheolwr Cynghrair Strategol Coleg y Cymoedd yn awyddus i ganmol ei fyfyrwyr: “Mae Laura ac Atlanta yn enghreifftiau rhagorol o’r dysgwyr arloesol ac ymroddedig yr ydyn ni’n ceisio’u meithrin yma. Yn ogystal ag ehangu eu gorwelion personol, maen nhw wedi braenaru’r tir i ddarpar ddysgwyr i deithio a chynrychioli’r coleg yn rhyngwladol.”

Rodd Bob Tod, un o Hyrwyddwyr Menter y coleg yn amlwg wrth ei fodd gyda’r ddwy fyfyrwraig.

Dywedodd: “Dw i mor falch o’r ddwy ohonyn nhw am gynrychioli eu coleg a’u gwlad mor wych. Mae cael dwy ddysgwraig i chwifio’n baner ar ochr arall y byd yn amlwg wedi bod yn fenter gyffrous i ni. Bu rhaid i’r merched hyd yn oed wneud cyflwyniad am eu hymweliad i’r Uwch Dîm Rheoli ar ôl dychwelyd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau