Mae dysgwyr o Goleg y Cymoedd wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024 yn erbyn cannoedd o ddysgwyr eraill ledled y wlad. Eleni, dangosodd 105 o ddysgwyr eu sgiliau, eu gallu, a’u dealltwriaeth, gan ennill cyfanswm diguro o 22 o fedalau; 10 ohonynt yn aur. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr, hyfforddeion, a phrentisiaid brofi, cymharu a gwella eu sgiliau drwy gystadlu mewn sectorau amrywiol.
Yn gyfres o gystadlaethau sgiliau ar lefel leol, caiff Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr. Mae’n cyd-fynd â WorldSkills a gofynion economi Cymru.
Cyn y seremoni, mynegodd y cystadleuwyr eiddgar eu teimladau ynghylch y posibilrwydd o ennill medal:
Dywedodd Luke Evans, Prentis Plymio Lefel 3: “Byddai’n dipyn o gamp ennill medal, ac yn rhywbeth y byddwn i’n falch ohono; cael y cyfle i arddangos fy sgiliau.” – Enillydd medal aur yn y gystadleuaeth Plymio a Gwresogi.
Ychwanegodd Scott Roberts: “Byddwn i ar ben fy nigon yn ennill medal, ond yn bwysicaf oll, byddwn yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi fy helpu ar hyd y ffordd: fy ffrindiau, fy nheulu ac yn enwedig fy nhiwtor Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Systemau Cynnal a Chadw Cyfrifiaduron, Phil Gorman.” – Enillydd medal arian mewn Seiberddiogelwch.
Dywedodd Jacob Barnett, dysgwr Cyfryngau Creadigol: “Byddwn i’n teimlo’n hapus iawn yn ennill medal; byddai’n fy argyhoeddi ac yn fy ysgogi i fynd ymhellach yn yr yrfa hon!” – Enillydd medal Aur Sgiliau Cynhwysol yn y Cyfryngau.
Dywedodd Jacob Barnett, dysgwr Cyfryngau Creadigol: “Byddwn i’n teimlo’n hapus iawn yn ennill medal; byddai’n fy argyhoeddi ac yn fy ysgogi i fynd ymhellach yn yr yrfa hon!” – Enillydd medal Aur Sgiliau Cynhwysol yn y Cyfryngau.
Dywedodd Janet Edwards, Rheolwr Derbyn a Thîm y Dyfodol Coleg y Cymoedd, am lwyddiant y dysgwyr: “Rydyn ni mor falch o’n holl ddysgwyr a gystadlodd eleni. Roedd y safonau’n anhygoel o uchel, gyda’r nifer fwyaf o geisiadau a welodd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru erioed, ond eto llwyddodd ein dysgwyr i ddod oddi yno gyda chyfanswm enfawr o fedalau.
“Mae pawb a gymerodd ran, o’r dysgwyr i’r tiwtoriaid a’r staff cymorth a helpodd i hwyluso’r cystadlaethau a’r hyfforddiant i’w diolch am y cyflawniad anhygoel hwn.
“Mae cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau yn ffordd wych o wella eich sgiliau technegol a’r sgiliau cyflogadwyedd allweddol sydd eu hangen ar gyfer cystadlu, megis gweithio dan bwysau, rheoli amser, cynllunio a datrys problemau. Wrth gwrs, caiff y rhain eu hymarfer gyda thiwtoriaid cyn dyddiad y gystadleuaeth.
“Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn helpu dysgwyr i fagu hyder, cael profiad defnyddiol, dysgu gan weithwyr proffesiynol yn eu meysydd, ac yn y pen draw cynyddu eu cyflogadwyedd ar ôl coleg a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Dathlu enillwyr medalau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024 o Goleg y Cymoedd
Llongyfarchiadau i’r 22 o ddysgwyr Coleg y Cymoedd a enillodd medalau aur, arian ac efydd, a da iawn i bawb a gymerodd ran eleni:
Aur:
Arian:
Efydd:
Gwnewch gais nawr ar gyfer cyrsiau Coleg y Cymoedd sy’n dechrau ym mis Medi.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR