Llwyddiant mewn chwaraeon ym Mhencampwriaeth Colegau Cymru

Bu grŵp o fyfyrwyr Coleg y Cymoedd yn ddiwyd cyn y Nadolig yn casglu bwydydd a chodi swm anrhydeddus o £80 ar gyfer Banc Bwyd Y Rhondda. Ymatebodd y myfyrwyr haelionus hyn, sy’n astudio ar gwrs llawn amser Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach ar Gampws Rhondda, wedi i’w tiwtor Theresa Thomas ddod i wybod am weithgaredd lleol y Banc Bwyd a dangos fideo iddyn nhw o’r gwaith a wneir gan Ymddiriedolaeth Trussell.

Roedd Laura Carter, 21 oed o Donyrefail, Sadie Strinati, sy’n 17 ac o Dreorci ac Emma Wood, myfyrwraig hŷn o Dreherbert, yn falch iawn o’r ymateb dderbyniodd y grŵp gan staff a myfyrwyr ar y campws. Yn ôl Laura, “Pan ddangosodd Theresa’r fideo i ni, roedd y grŵp yn unfryd y dylen ni gefnogi’r Ymddiriedolaeth; ac fel rhan o’n Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, wnaethon ni benderfynu cynnal nifer weithgareddau i godi arian at yr achos.

“Mae’n drist meddwl fod cymaint o bobl, yn 2013, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, yn ffaelu fforddio i brynu bwyd; gallai hyn fod o achos gwaeledd, diweithdra neu chwalfa deuluol. Wnaethon ni hefyd godi arian drwy raffl a stondin grefftau fydd yn help i gefnogi teuluoedd mewn argyfwng.”

Wrth dderbyn y rhoddion a diolch i’r myfyrwyr am eu cefnogaeth, dywedodd David Holland, Rheolwr Banc Bwyd y Rhondda, “Ar ran y Banc Bwyd, rwy’n hynod ddiolchgar i’r coleg am eu rhoddion ac i’r myfyrwyr am gynnig dod ar leoliad gwaith ym manc bwyd Tylorstown.”

Bydd y myfyrwyr yn ased i ni ac yn ein helpu i gasglu, cofnodi a dosbarthu’r bwyd yn ein canolfan yn Tylorstown. Rydyn ni’n falch o’r gwaith mae’r elusen yn ei gyflawni ac y mae Ymddiriedolaeth Trussell newydd gael ei dyfarnu fel ‘Yr Elusen a Edmygir Fwyaf’ mewn seremoni wobrwyo’r Trydydd Sector ym Mhencadlys Google yn Llundain. Dim ond wrth i ni weithio drwy sefydliadau fel y coleg rydyn ni’n gallu hyrwyddo’r elusen a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig.”

Yn ôl eu Tiwtor, Nicola Williams, “Mae’r grŵp wedi gweithio’n eithriadol o galed ar eu hamrywiaeth o weithgareddau elusennol, sydd wedi cynnwys cynnal raffl, gwerthu cardiau a thagiau anrhegion; cafodd y fideo gryn ddylanwad arnyn nhw ac fe’i gwnaed yn fwy byw iddyn nhw wrth ddeall fod pobl leol yn dibynnu ar yr Ymddiriedolaeth am eu bwyd. Gobeithio i’r parseli bwyd a gasglwyd gennym sirioli peth ar yr ŵyl i rai sydd mewn angen.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau