Mae Coleg y Cymoedd yn Cofio

Mae grŵp o ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd wedi cynhyrchu arddangosfa odidog o babïau i nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Creodd y dysgwyr, sy’n astudio ar gyrsiau Mynediad Galwedigaethol amrywiol yng nghampws Nantgarw, gyda chymorth Tiwtoriaid y Cwrs Emma Chakrabarti, Allison Thomas a Carol Fatkin ynghyd â’r tîm o staff cymorth,  montage o dros 500 o babïau unigol sydd bellach yn hongian o’r balconi ym mhrif dderbynfa’r campws.

Dywedodd Emma “Gan ei bod yn 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y staff a’r dysgwyr eisiau gwneud rhywbeth arbennig eleni i nodi Diwrnod y Cofio a phenderfynwyd cynhyrchu’r pabïau coch o boteli plastig ar gyfer yr arddangosfa. Penderfynwyd cynnwys arddangosfa ar gyfer yr holl anifeiliaid a fu farw yn ystod yr ymladd hefyd.

Rwyf mor falch o’r dysgwyr sydd wedi bod mor frwdfrydig am y prosiect. Maent wedi gweithio’n galed am nifer o wythnosau i greu’r pabïau a’u harddangos mewn pryd i nodi’r achlysur. Bu’n ffordd wych o gysylltu ein dysgwyr ag achlysur mor bwysig.

Rwyf yn credu ei bod yn deg dweud eu bod wedi mwynhau’r gweithgaredd ac roeddent mor gyffrous i weld eu gwaith gorffenedig mewn lle mor amlwg; yn hongian yn y brif dderbynfa. Rydym hefyd wedi cael adborth gwych gan staff ac ymwelwyr i’r coleg “.

Ychwanegodd Dylan, 16 oed, o Rondda Cynon Taf sy’n astudio yn yr adran Mynediad Galwedigaethol “Rwyf wedi dysgu llawer am ba mor bwysig yw Diwrnod y Cofio, gan ein bod wedi gweithio ar y prosiect pabïau hwn ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig cofio’r holl bobl hynny a fu farw yn y rhyfel a hefyd eu teuluoedd, a gollodd y bobl yr oeddynt yn eu caru. Mae’r pabïau sy’n hongian o’r balconi yn edrych yn anhygoel ac yn ein helpu i gofio’r bobl hynny”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau