Mam i ddau a ddychwelodd i’r coleg i ailddechrau ei gyrfa a chefnogi ei phlant yn dathlu ennill lle yn y brifysgol er mwyn bod yn nyrs iechyd meddwl

Mae mam i ddau o Drethomas, a ddychwelodd i’r coleg fel dysgwr aeddfed er mwyn iddi allu ailhyfforddi fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gefnogi ei phlant yn well, yn dathlu ennill lle yn y brifysgol.

Penderfynodd Shelbi Mitchell, 28, ymuno â Choleg y Cymoedd ar ôl saib o ddeng mlynedd o fyd addysg, fel y gallai ddilyn ei breuddwyd o weithio ym maes gofal iechyd a darparu bywyd gwell i’w phlant, Oliver, (6), ac Isabelle (2).

Mae hi nawr yn edrych ymlaen at astudio gradd mewn nyrsio iechyd meddwl ym Mhrifysgol De Cymru ac yn gobeithio ysbrydoli rhagor o famau ifanc i ddilyn eu huchelgeisiau gyrfa a dangos bod opsiynau ar gael i’w cefnogi i wneud hynny.

Bu’r darpar nyrs a’i bryd ar weithio ym maes gofal iechyd erioed, wedi’i hysbrydoli gan yrfa ei mam ei hun fel nyrs iechyd meddwl. Ond nid oedd yn meddwl y byddai hynny’n bosibl ar ôl seibiant mor hir o addysg a heb y cymwysterau cywir, ar ôl gweithio mewn rolau lletygarwch amrywiol, ers iddi adael y chweched dosbarth yn wreiddiol heb unrhyw gymwysterau. Roedd Shelbi hefyd yn nerfus i adael ei merch ar drywydd swydd newydd ac felly penderfynodd anghofio am ei syniadau i newid gyrfa.

Roedd hynny hyd nes, un diwrnod, dechreuodd Shelbi siarad ag un o’r mamau eraill yn ysgol ei mab, gan ddarganfod ei bod wedi astudio cwrs Mynediad Lefel 2 yng Ngholeg y Cymoedd a bod cymorth ar gael i ddysgwyr â phlant ifanc i’w galluogi i astudio.

Felly, gan deimlo y gallai hi ddechrau ar y daith tuag at yrfa ei breuddwydion, gwnaeth gais llwyddiannus am le ar gwrs Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau Pellach yng Ngholeg y Cymoedd – sydd wedi’i gynllunio i helpu’r rhai heb unrhyw gymwysterau i ennill sgiliau academaidd a symud ymlaen i addysg bellach a chyfleoedd gwaith.

Ar ôl treulio mwy na 10 mlynedd yn gweithio fel gweinyddes mewn tafarndai lleol yn ardal Caerffili, roedd Shelbi yn poeni y byddai’n ei chael hi’n anodd addasu i’w hastudiaethau ac na fyddai’n gallu ymdopi â’r llwyth gwaith ochr yn ochr â bod yn fam i’w phlant.

Dywedodd Shelbi: “Roedd yn frawychus ymuno â’r cwrs i ddechrau. Rwy’n meddwl fy mod yn bendant wedi dioddef ychydig o ‘syndrom y ffugiwr’ ac yn poeni nad oeddwn yn gallu cydbwyso fy mywyd fel mam ac fel dysgwr yn y coleg.

“Fel mam, mae’n anodd bod yn hunanol a gwneud pethau drosoch eich hun. Roeddwn i’n poeni am fod i ffwrdd o Isabelle a hithau mor ifanc – doeddwn i ddim eisiau colli allan ar y blynyddoedd gwerthfawr hyn o’i bywyd, ond cyn gynted ag y dechreuais i ar y cwrs, diflannodd fy ofnau. Roedd y tiwtoriaid mor gefnogol ac yn deall fy sefyllfa i.”

Yn ystod ei chyfnod ar y cwrs mynediad yn y coleg, astudiodd Shelbi bynciau gan gynnwys Mathemateg, Bioleg, Cymdeithaseg, Seicoleg, Cyfathrebu ac Astudiaethau Iechyd. Mae hi bellach wedi symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch mewn Gofal Iechyd a fydd yn rhoi’r hyn sy’n cyfateb i dair Safon Uwch iddi.

Gyda chefnogaeth staff y coleg, ysbrydolwyd Shelbi i wneud cais am radd prifysgol yn yr yrfa y mae hi wedi breuddwydio amdani erioed – nyrsio iechyd meddwl.

Ychwanegodd Shelbi: “Petaech chi wedi dweud wrtha i ddwy flynedd yn ôl y byddwn i nid yn unig yn gwneud cais i fynd i’r brifysgol ond yn cael cynnig diamod i astudio fy ngyrfa ddelfrydol, byddwn i fwy na thebyg wedi chwerthin. Mae’n dangos bod cefnogaeth ac anogaeth gan eraill yn talu ar ei ganfed.

“Rydw i mor ddiolchgar i Goleg y Cymoedd ac am bopeth maen nhw wedi’i wneud i mi a fy nheulu – hyd yn oed os nad oedd gennyf gynnig i fynd i’r brifysgol neu wedi penderfynu nad dyna oedd y llwybr i mi, mae’r cwrs hwn wedi agor cymaint o ddrysau gyrfa i mi a rhoi cymaint o hwb i fy hyder.

“Dw i mor falch fy mod i’n gallu bod yn fodel rôl i’m dau blentyn a dangos iddyn nhw y gallwch chi wneud unrhyw beth a chymryd y camau hynny bob amser, waeth pa mor frawychus ydyn nhw. Mae Oliver yn falch iawn o fy nghynnig i fynd i’r brifysgol. Mae’n mynd i’r ysgol gyda beiros a photeli dŵr Coleg y Cymoedd ac yn dweud, ‘Mae hwn yn dod o’r coleg, ac mae mam yn mynd i fod yn nyrs!’ Mae’r plant yn falch ac mae gallu darparu ar eu cyfer yn gwneud hyn yn fwy gwerth chweil.”

Darganfod cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg y Cymoedd: https://www.cymoedd.ac.uk/courses/mynediad-i-addysg-uwch/?lang=cy

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau